Rydym wedi cael hysbysiad gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru o waith ffordd ar hyd yr A5 rhwng cylchfan Halton a chylchfan Gledrid – i’r de o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Gwaith yw hwn i uwchraddio’r rhwystrau diogelwch er mwyn gwneud y ffordd yn fwy diogel.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng dydd Llun 29 Ionawr a dydd Mercher 21 Mawrth a bydd y rhwystrau diogelwch yn cael eu huwchraddio er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau diweddaraf. Bydd y gwaith yn golygu culhau’r ffordd er mwyn gwneud y lleoliad yn ddiogel i weithwyr ond ni ddylai amharu gormod ar draffig. Bydd y cyfyngiad cyflymder presennol o 40mya yn weithredol tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.
Efallai y bydd 3 achos o gau’r ffordd yn effeithio arnoch wrth i’r gweithwyr osod y rhwystrau diogelwch yn eu lle:
28 Ionawr o 8pm tan 6am
18 Chwefror o 8pm tan 6am
20 Mawrth o 8pm tan 6am
Bydd unrhyw lwythi anarferol yn cael eu hebrwng trwodd a gallai hynny achosi oedi byr ond bydd hynny ond yn digwydd pan fo’r ffordd yn llai
prysur.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar 033 123 1213 neu edrychwch ar eu gwefan www.traffig-cymru.com neu dilynwch nhw ar twitter @TraffigCymruG neu @TrafficWalesN
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT