Bydd gwaith cynnal a chadw yn digwydd yn yr orsaf bysiau dros y penwythnos a fydd yn amharu arnoch os ydych chi’n defnyddio’r orsaf rhwng 6pm ddydd Sadwrn a 6am ddydd Llun.
Byddwn yn gosod netin i atal y colomennod rhag gwneud llanast a hefyd yn gosod goleuadau LED newydd yn y dyfodol agos.
Bydd y bysiau yn gweithredu fel yr arfer ac nad effeithir ar fynediad o Stryt Yr Arglwydd i’r arcêd siopau yn ystod oriau agor.
Os ydych chi’n aros am fws, bydd rhaid i chi aros tu allan i’r man ymgynnull, a fydd wedi cau ar gyfer cynnal y gwaith. Rydym yn ymddiheuro os yw hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra, ond mae’n hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
“Mae gennym raglen o waith gwelliannau i’r orsaf bysiau a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf a dyma’r cyfnod cyntaf a fydd yn gweld goleuadau gwell a diwedd i’r problemau a achosir gan golomennod yn y to.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT