Mae trwsio’r difrod a achoswyd gan Storm Christoph yn gynharach eleni yn dal yn flaenoriaeth i ni ac mewn ymweliad diweddar â’r safle i weld y difrod a achoswyd i’r B5605 yn Newbridge, roedd yr effaith ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a’r cymunedau lleol yn amlwg.
Achosodd y storm dirlithriad a bu’n rhaid cau’r ffordd am gyfnod amhenodol.
Mae’r gwaith i drwsio hyn yn gymhleth a’r ateb yn anodd a chostus, ond rydym yn obeithiol y daw cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i drwsio’r rhan pwysig yma o’n seilwaith.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ei fod yn croesawu’r cyfle i gyfarfod â’r AS Ken Skates sydd wedi dangos diddordeb brwd mewn gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Julie James.
“Gobeithio y bydd y sgyrsiau a’r trafodaethau yma yn dwyn ffrwyth ac y bydd y ffordd hon yn ail-agor cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn creu anawsterau mawr i bobl leol ac rydym angen arian sylweddol i fynd i’r afael ag effeithiau storm Christoph.”
Dywedodd Ken Skates, Aelod o’r Senedd ar gyfer De Clwyd: “Mae’r difrod a achoswyd gan dywydd eithriadol y llynedd wedi achosi trafferthion i gymunedau ar draws Cymru. Dyma enghraifft wael iawn, a gwn ei fod wedi achosi llawer o broblemau’n lleol.
“Rwyf wedi codi’r mater gyda’r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James a gofyn i Lywodraeth Cymru edrych eto ar hyn. Rwy’n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda’r cyngor ynglŷn ag arian arall allai fod ar gael, felly rwy’n edrych ymlaen at dderbyn ateb y Gweinidog yn amlinellu sut y gall y ddwy ochr weithio gyda’i gilydd i ddatrys y sefyllfa.”
Mae’r B5605 yn darparu cysylltiadau ffordd hanfodol rhwng cymunedau Newbridge a Cefn a’r aneddiadau pellach yn y Waun i’r de a Plas Madog/Rhiwabon i’r gogledd. Mae colli’r ffordd hon yn torri cysylltiad gyda’r cymunedau hyn gan achosi trallod ac anghyfleustra i’r trigolion a’r busnesau yn yr ardaloedd hyn.
“Mae ffyrdd eraill yn hir ac anghyfleus. Yn ogystal â hyn, mae’r darn yma o’r B5605 yn cynnig ffyrdd eraill i osgoi cefnffordd yr A483. Pe bai’n rhaid cau’r gefnffordd boed hynny ar gyfer gwaith a gynllunnir neu argyfwng, mae’n rhaid dargyfeirio llwybrau eraill drwy Langollen bellach, sy’n golygu gwyriad o 15 milltir i yrwyr.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF