Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – peidiwch â bod yn orbryderus nac yn ddi-hid, ond rhywle yn y canol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – peidiwch â bod yn orbryderus nac yn ddi-hid, ond rhywle yn y canol
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – peidiwch â bod yn orbryderus nac yn ddi-hid, ond rhywle yn y canol

Diweddarwyd diwethaf: 2021/06/15 at 5:20 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid-19
RHANNU

Mae nodyn briffio heddiw eto yn eithaf byr – sy’n adlewyrchu sut mae pethau wedi gwella.

Cynnwys
Ydych chi’n gweithio ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam?Y wybodaeth ddiweddaraf am frechuDydi hi ddim yn rhy hwyrArchebu ar-leinCael eich ail ddosAngen gwirfoddolwyr i helpu i dreialu brechlyn ‘atgyfnerthu’Cadw gweithwyr yn ddiogelSymptomau? Ewch am brawfSymptomau ehangachFfynonellau gwybodaeth defnyddiol

Ond rydyn ni’n gwybod nad yw’r pandemig ar ben, a’r amrywiolyn Delta sy’n achosi pryder yw’r tro diweddaraf yn y stori… felly mae angen cydbwysedd.

Dewch i ni fwynhau’r rhyddid sydd gennym, ond bod yn gall a chofio’r pethau sylfaenol – dwylo, wyneb, pellter, awyr iach.

Ydych chi’n gweithio ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam?

Mae uned brofi symudol ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn ei gwneud yn haws i weithwyr gael prawf Covid-19.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae hyn yn rhan o ymdrechion i helpu i gadw nifer yr achosion yn isel yn Wrecsam.

Mae’r cyfleuster profi hawdd-ei-ddefnyddio’n cynnig profion llif unffordd cyflym ym Mharc Busnes Rhydfudr bob dydd Llun.

Darllenwch fwy…

Canolfan brofi symudol i agor yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu

Mae wyth deg pedwar y cant o oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn. Mae hanner wedi’u hamddiffyn yn llawn gan ddau ddos.

Mae’r brechlyn wedi cael ei gynnig i bob unigolyn cymwys, ac mae’r bwrdd iechyd lleol yn annog y rhai sydd heb ei gael hyd yma i drefnu apwyntiad ar-lein.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr

Gallai brechu pawb cyn i’r amrywiolyn Delta (neu unrhyw amrywiolyn arall sy’n achosi pryder) gael gafael go iawn gael effaith fawr ar ein gallu i ddychwelyd i fywyd arferol.

Felly dros yr wythnosau nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn anfon negeseuon testun a llythyrau at bobl sydd heb drefnu i gael y dos cyntaf eto.

Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gallu trefnu eich apwyntiad neu os ydych wedi gwrthod un pan gafodd ei gynnig gyntaf a’ch bod wedi newid eich meddwl wedyn.

Mae’r drws bob amser ar agor ac nid yw’n rhy hwyr.

Archebu ar-lein

Mae hi rŵan yn haws nag erioed i chi drefnu eich dos cyntaf a’ch ail ddos drwy’r gwasanaeth archebu ar-lein ar ein gwefan.

Mae dewis o ddyddiadau ac amseroedd ar gael ar gyfer apwyntiadau, ac mae clinigau brechu mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru.

Os nad ydych chi’n gallu trefnu apwyntiad ar-lein, ffoniwch 03000 840004.

Cael eich ail ddos

Mae data byd go iawn yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol iawn yn erbyn yr amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

Felly, mae’n hanfodol eich bod chi’n cael eich ail ddos i fod mor ddiogel â phosib’.

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd lleol y GIG.

Nodyn briffio Covid-19 – peidiwch â bod yn orbryderus nac yn ddi-hid, ond rhywle yn y canol

Angen gwirfoddolwyr i helpu i dreialu brechlyn ‘atgyfnerthu’

Mae angen gwirfoddolwyr o fewn 50 milltir i Wrecsam i fod yn rhan o dreial clinigol newydd i dderbyn trydydd brechlyn ‘atgyfnerthu’.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n recriwtio rhai dros 30 oed sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 – gan gynnwys y rhai a frechwyd yn gynnar yn y rhaglen frechu (e.e. pobl dros 75 oed neu weithwyr iechyd a gofal).

Darllenwch fwy…

Mae angen gwirfoddolwyr yn Wrecsam ar gyfer yr astudiaeth atgyfnerthu brechlyn COVID-19 gyntaf yn y byd

Cadw gweithwyr yn ddiogel

Wrth i fwy o fusnesau ailagor yn Wrecsam, rydym ni’n ceisio sicrhau bod cyflogwyr yn cymryd y camau cywir i gadw eu gweithwyr yn ddiogel.

Rydym ni bellach yn gweithio gydag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gynnal gwiriadau Covid-19 ar hap mewn busnesau. Y bwriad yw cefnogi busnesau drwy eu helpu i reoli risgiau’r feirws.

Darllenwch fwy…

Symptomau? Ewch am brawf

Os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws – neu os ydych wedi’ch nodi’n ‘gyswllt’ gan y gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu – gofalwch eich bod yn hunanynysu ac yn cael prawf.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Symptomau ehangach

Gallwch rŵan gael prawf am ddim os oes gennych chi ystod ehangach o symptomau.

Yn ogystal â’r prif symptomau – gwres, peswch newydd a pharhaus neu golli/newid i’r gallu i flasu ac arogli – gall pobl bellach gael prawf os oes ganddynt symptomau eraill hefyd, fel:

• Symptomau tebyg i’r ffliw sydd heb gael eu hachosi gan gyflyrau rydych chi’n gwybod amdanynt (fel clefyd y gwair), gan gynnwys poen yn y cyhyrau, gorflinder, cur pen cyson, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, tisian yn ddi-baid, dolur gwddw a/neu grygni, byr eich gwynt neu frest dynn.
• Teimlo’n wael yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt ag achos wedi’i gadarnhau o Covid-19.
• Unrhyw symptomau newydd neu newid i symptomau ar ôl prawf negyddol yn flaenorol.

Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF

Rhannu
Erthygl flaenorol Flood Damage Gwaith trwsio ffordd gyswllt bwysig drwy Newbridge yn dal yn uchel ar yr agenda
Erthygl nesaf Blood Donation Newidiadau pwysig i roi gwaed yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Arall

Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Gorffennaf 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English