Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect uchelgeisiol a fydd – os caiff ei gymeradwyo – yn helpu pobl ddigartref yn Wrecsam.
Ar ddechrau’r pandemig, i helpu lleihau’r lledaeniad o’r coronafeirws, bu i’r cynghorau ledled Cymru weithredu ar unwaith i sicrhau nad oedd neb yn byw ar y strydoedd.
Roedd lloches gyda’r nos yn Wrecsam eisoes, sef Tŷ Nos ar Holt Road, yn ogystal â llety dros dro a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arfer yn ystod y gaeaf.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, roedd y cyngor a’i bartneriaid yn gallu camu ymlaen, roedd pobl a oedd yn cysgu ar y stryd yn cael eu hannog i fynd i lety dros ben ym Mhrifysgol Glyndŵr – lle’r oeddent yn cael cefnogaeth bersonol a rhywle diogel yn ystod y pandemig.
Gwahoddodd Llywodraeth Cymru gynigion am gyllid ychwanegol i helpu cynghorau sicrhau nad oedd rhaid i bobl fynd yn ôl i gysgu ar y stryd… drwy ddarparu llety mwy addas i gysgwyr ar y stryd a phobl a oedd mewn perygl o golli eu cartrefi.
O ganlyniad, dyfarnwyd £2.2m i Gyngor Wrecsam gymryd lle’r hen loches nos Tŷ Nos gyda chanolfan llety newydd ar yr un safle.
Ymchwiliadau Tir
Bydd ymchwiliadau ac arolygon cychwynnol o’r safle yn dechrau yn yr wythnosau nesaf, sy’n rhan o’r broses cyn cynllunio a’r broses Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais Cynllunio (PAC), cyn y gellir gwneud cais llawn.
Os yw’r prosiect yn cael cymeradwyaeth cynllunio, bydd y ganolfan yn cael ei hadeiladu mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn, a bydd yn darparu llety a chyfleusterau hunangynhwysol lle bydd cefnogaeth ar gael i bobl sy’n cysgu ar y stryd.
Y bwriad yw rhoi cefnogaeth unigol i bob unigolyn y maent eu hangen i’w helpu i gael eu traed oddi tanodd a dod o hyd i rywle parhaol i fyw.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Mae’n hollbwysig ein bod yn cynnig rhywle diogel i bobl ddigartref aros – ynghyd â’r cymorth y mae arnynt ei angen i wella eu bywydau, iechyd, cyflogaeth a’u disgwyliadau tai hirdymor.
“Os caiff ei gymeradwyo, byddai’r datblygiad arfaethedig ar safle Tŷ Nos yn chwarae rhan allweddol yn darparu’r cymorth hwn yn Wrecsam.”
Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Gweithredol ClwydAlyn: “Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi newydd i bobl sydd wedi bod yn ddigartref.
“Rydym yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y lloches nos yr ydym wedi bod yn ei chynnal ers blynyddoedd yn cael ei disodli â chartrefi o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth newydd yn cael eu darparu ar y safle gan y cyngor.”
CANFOD Y FFEITHIAU