Mae gwaith bellach wedi dechrau ar Ddatblygu Tai Cymdeithasol newydd.
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda Gareth Morris Construction (GMC) i adeiladu bloc o fflatiau deulawr sy’n cynnig fflatiau un ystafell wely.
Mae Gareth Morris Construction (GMC) yn Gwmni Adeiladu yn Llangollen sydd wedi ennill gwobrau yn genedlaethol.
Bydd y datblygiad yn lansio gwaith adeiladu sy’n defnyddio Dulliau Adeiladu Modern – y tro cyntaf erioed i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wneud hynny.
Nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r galw am gartrefi sy’n addas i unigolion neu gyplau.
Bydd y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei gosod ym mhob cartref newydd, er mwyn eu cadw’n gynhesach am gyfnod hirach o amser, gan hefyd ostwng biliau ynni ar gyfer deiliaid contract. Cefnogir y datblygiad drwy gyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
Bu i’r gwaith ar y safle ddechrau’n swyddogol ddiwedd mis Mehefin, ac mae disgwyl i’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn canol 2025.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd GMC yn bwrw ymlaen â’r gwaith o godi’r ffrâm bren a’r gwaith canlynol.
Mae GMC wedi gosod haen gapio gerrig dros y safle, a fydd hefyd yn helpu i gadw’r briffordd gyhoeddus yn lân.
Meddai Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Gareth Morris Construction: “Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith eto, yn ogystal â’r holl fudd-ddeiliaid prosiect eraill, er mwyn darparu llety fforddiadwy i bobl ym Mwrdeistref Wrecsam, y mae gwir eu hangen.
“Mae sicrhau’r contract unwaith eto yn caniatáu i ni barhau i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chyflogaeth ar gyfer y gymuned leol, gan gynnwys trwy ymgysylltu parhaus â chyflenwyr ac is-gontractwyr lleol.
Trwy ein dull Buddion Cymunedol sefydledig, mae’r prosiect hwn hefyd yn caniatáu i ni barhau â’n gwaith gyda chymunedau lleol Bwrdeistref Wrecsam, er mwyn cynnig buddion cynaliadwy eraill iddynt.”
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Rydym yn falch bod y gwaith ar Heol Offa yn mynd rhagddo’n dda a’n bod yn cydweithio gyda Gareth Morris Construction (GMC).
“Bu i’r gwaith ar y safle hwn ddechrau ddiwedd mis Mehefin ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu newydd yn cael ei ddatblygu ar y safle, a fydd yn dechrau mynd i’r afael â’r galw am eiddo un ystafell wely.”
Meddai’r Cynghorydd Steve Joe Jones o Wardiau Pant a Johnstown, “Rwy’n falch o gynnydd presennol y gwaith adeiladu newydd ar Heol Offa yn Johnstown.
“Y gobaith yw y bydd y datblygiad newydd hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r galw presennol am lety yn Ward Johnstown.”