Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Y cyngor

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2024 11:26 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
RHANNU

Wyddoch chi fod ffordd o gael y wybodaeth a chyngor diweddaraf o ran ailgylchu yn uniongyrchol i chi, fel nad ydych yn colli allan ar unrhyw beth pwysig sy’n eich effeithio chi?

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r e-bost Gwybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu yn darparu gwybodaeth, argymhellion a chyngor hanfodol ar ailgylchu yn Wrecsam. Trwy gael y wybodaeth ddiweddaraf, gallwch helpu i gyfrannu tuag at Wrecsam glanach a chael effaith cadarnhaol ar ein hamgylchedd.”

Ydych chi’n barod i gymryd rhan? Mae cofrestru’n hawdd, dim ond nodi eich cyfeiriad e-bost a gallwn ddechrau anfon ein hargymhellion a gwybodaeth i chi.

Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau

Wyddoch chi y gallwch chi wirio pryd mae eich casgliadau bin diweddaraf yn syml trwy deipio eich cod post neu stryd?

Mae’r cyfleuster Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn ffordd wych o gael gwybod yn union pryd mae’ch biniau yn cael eu casglu, a gall fod yn arbennig o ddefnyddiol ar adegau pan fyddwch yn gweld newidiadau i’ch patrwm casglu arferol, megis dros gyfnod y Nadolig.

Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio’ch diwrnod casglu biniau, a gallwch wirio ar ran eich ffrindiau, aelodau o’ch teulu a chymdogion hefyd.

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasgliadau biniau yw cofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa trwy e-bost. Trwy wneud hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.

Cofiwch: Mae Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn para tan fis Chwefror 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchue-bost
Rhannu
Erthygl flaenorol image of 3 housing officers, two construction works and Councillor David Bithell in front of the site Gwaith yn dechrau ar Ddatblygu Tai Cymdeithasol newydd yn Johnstown
Erthygl nesaf Gresffordd Colliery Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 90 mlynedd yn ddiweddarach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English