Mae gwaith yn Ysgol yr Hafod i fod i gael ei gwblhau erbyn 31 Awst yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd sy’n dechrau ar 5 Medi.
Mae tu blaen Fictoraidd yr ysgol wedi’i gadw, ac mae’r tu mewn wedi’i foderneiddio’n chwaethus gan ymgorffori nodweddion hŷn a newydd yr ysgol bresennol.
Ar ôl cwblhau prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi’i gefnogi gan tua £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd pob grŵp blwyddyn yn cael eu haddysgu ar safle Ffordd Bangor.
Roedd y gwaith yn cynnwys cymorth grant ychwanegol y cafodd ei ddefnyddio i brynu tŷ’r ysgol, a fydd yn rhan o’r hawl i flynyddoedd cynnar. Bydd Little Miners a’r Clwb ar ôl Ysgol hefyd yn cael lle yn yr adeilad a fydd o fudd i’r ysgol a’r gymuned leol.
Ar ddiwedd y tymor bydd yr ysgol yn gadael Safle’r Cyfnod Sylfaen, a fydd hefyd yn cynnwys paratoadau ar gyfer cael gwared ar y cabanau dros dro. Bydd Safle’r Cyfnod Sylfaen ym Melyd Avenue wedyn yn dychwelyd i’r Awdurdod Lleol yng Nghyngor Wrecsam.
Roedd lleoedd parcio ychwanegol ar Ffordd Bangor yn rhan o’r amodau cynllunio sy’n cefnogi rhieni a’r gymuned i geisio mynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â’r galw am leoedd parcio. Byddwn ni hefyd yn annog rhieni i gerdded i’r ysgol yn rhan o’n hymrwymiad i gynlluniau teithio llesol.
Bydd tri mynediad i’r safle, sef: Ffordd Bangor, y Stryd Fawr ac Ystâd Moreton. Bydd yr ysgol yn rhoi rhagor o fanylion yn nes at yr amser.
Bydd diwrnod agored yn cael ei drefnu pan fydd y safle wedi’i drosglwyddo yn ôl, er mwyn i’r gymuned allu dod i weld y cyfleusterau newydd, mae’n debygol y bydd hyn yn digwydd ar ôl i’r ysgol agor ym mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod: “Rwy’n falch iawn o sut mae’r Grŵp Prosiect Strategol wedi goruchwylio’r gwaith dros y 18 mis diwethaf gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni ar amser a bod y cyfleusterau newydd yn wych y tu mewn a’r tu allan. “Rwy’n gwybod bod staff yr ysgol yn hynod o falch ac yn edrych ymlaen at gael cyfleusterau mor fodern sydd hefyd yn cynnwys cyfleuster gemau aml-ddefnydd newydd. “Bydd y gymuned leol yn falch iawn o’u hysgol newydd”.
Dywedodd Mrs Alison Heale, y Pennaeth: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n rhieni a’n gwarcheidwaid, trigolion a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod adeiladu’r safle ac o ran yr anawsterau parcio ychwanegol ar Safle’r Cyfnod Sylfaen. Mae’r newidiadau a’r gwelliannau wedi bod yn drawsnewidiol ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein disgyblion i gyd yn ôl ym mis Medi.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n wych gweld blynyddoedd o gynllunio yn dwyn ffrwyth wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn gwella adeiladau ein hysgolion ledled Wrecsam. Rwy’n hynod o falch gyda safon uchel y gwaith yn yr ysgol ac rwy’n hyderus y bydd yr ysgol yn gwasanaethu cymuned Johnstown yn dda am flynyddoedd i ddod.