Mae Coleg Cambria ar fin cynnal ailddatblygiad £20miliwn i un o’u safleoedd, all chwyldroi profiad dysgu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r coleg wedi amlygu Campws Iâl Cambria yn Wrecsam yn y cam nesaf o’r gwaith ailwampio, gyda gwariant o £40miliwn ar draws nifer o safleoedd yn y 18 mis diwethaf.
Mae cynlluniau’r coleg yn cynnwys cyfadeilad tri llawr gyda’r dechnoleg a’r cyfarpar dysgu ddiweddaraf i roi’r cyfle gorau i ddisgyblion gyflawni eu nod. Hefyd, mae neuadd gynhadledd sy’n dal 200 sedd a gofod astudio modern o fewn cynlluniau’r coleg.
Ynghyd ag ystafelloedd TG ac ystafelloedd cyfarfod, bydd y cyfleuster hefyd yn canolbwyntio ar fedrusrwydd chwaraeon Gogledd Cymru ac yn ceisio uchafu talent y rhanbarth gyda chyfleuster chwaraeon chwyldroadol.
O ran graddfa amser, maent yn gobeithio dechrau’r adeiladu mor gynnar â 2019 yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria David Jones mewn datganiad: “Wrth i ni baratoi i ddathlu pum mlynedd o Goleg Cambria, mae’r datblygiad diweddaraf yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i Wrecsam ac i’r rhanbarth, ac i addysg a gyrfaoedd y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.”
Aeth Mr Jones ymlaen i ddweud, “rydym wedi cyflawni cymaint, ac wedi sefydlu ein hunain mae’n debyg, fel y coleg gorau yn y DU yn seiliedig ar berfformiad presennol. “Rwy’n falch iawn o hyn, gan ein bod yn siapio diwylliant miloedd o bobl ifanc mewn cyfleusterau modern, arloesol a chroesawgar – bydd y campws, ar ei newydd wedd, yn mynd â ni ymhellach i gyflawni ein nod.”
Yn ogystal â dros £10m y mae’r coleg wedi ei godi, y gobaith yw diogelu arian cyfatebol ychwanegol gan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r cynlluniau, ac mae yn ei gamau olaf o gwblhau busnes manwl.
Bydd ymgynghoriad gyda myfyrwyr a staff cyn i’r cynlluniau terfynol gael eu cadarnhau ac yn ôl Mr Jones, mae eu mewnbwn nhw’n ‘hanfodol’.
Mae’r cynlluniau hyn yn siŵr o gael eu croesawu yn dilyn llwyddiant datblygiad £10miliwn Bersham Road, Wrecsam ac adeiladu Canolfan Fusnes £3.5 miliwn yn Llaneurgain.
Croesodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol am Addysg, y newyddion. Dwedodd y Cynghorydd: “Mae’r ceisiadau rhain yn rhai cyffrous, ac rydym yn gobeithio ei bydd yn ehangu’r cyfleusterau am addysg yn Wrecsam a’r ardal o’i hamgylch.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL