Mae ysgol leol yn paratoi ar gyfer trawsnewidiad gwerth miliynau a fydd yn golygu bod y cyfleusterau dysgu gorau yn Johnstown.
Bydd yr estyniad a gwaith ailwampio gwerth £4.5 miliwn yn Ysgol yr Hafod yn golygu y bydd modd i blant y babanod ac iau gael eu haddysgu ar yr un safle ar Ffordd Bangor.
Mae paratoadau’n cael eu gwneud er mwyn sicrhau na fydd unrhyw beth yn amharu ar ddysgu’r disgyblion tra bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, a diwedd mis Chwefror (ar ôl gwyliau hanner tymor), bydd y disgyblion iau yn symud o Ffordd Bangor i safle babanod yn Rhodfa Melyd.
Mae dosbarthiadau symudol yn cael eu gosod yn barod i allu derbyn y niferoedd ychwanegol, ac mae rhieni a phreswylwyr yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Cyfnod cyffrous
Yn ôl Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Cynghorydd David A Bithell, mae cynlluniau’n mynd rhagddynt yn dda:
“Y cam nesaf yw symud pob disgybl i safle’r Cyfnod Sylfaen ar Rhodfa Melyd o 1 Mawrth, ac rydym ni’n cyfathrebu gyda rhieni a phreswylwyr lleol ynghylch y cynlluniau.
“Mae hi’n gyfnod cyffrous ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael ysgol newydd a gwella’r cyfleusterau i blant a staff – er rydym ni’n cydnabod y bydd y problemau parcio yn her yn ystod y cyfnod dros dro.
“Rydym ni’n gweithio’n galed iawn i fynd i’r safle â phryderon lleol a bydd yr ysgol a minnau yn diweddaru’r rhieni a phreswylwyr wrth i’r gwaith fynd rhagddo”.
Dywedodd y Pennaeth Mrs Alison Heale:
“Mae pobl ifanc Johnstown yn haeddu’r cyfleusterau gorau, a phan fydd y gwaith yn Ffordd Bangor wedi’i gwblhau, bydd gennym amgylchedd dysgu modern sydd yn ysbrydoli ac a fydd o fudd i’n holl blant.
“Er y bydd yna heriau yn y cyfnod dros dro, rydym ni wedi paratoi’n dda ac yn barod i wynebu’r heriau hynny. Mae hi’n gyfnod tu hwnt o gyffrous i ddisgyblion, staff a rhieni.”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:
“Fe fydd dod â’r holl blant ynghyd ar un safle modern – gyda’r dosbarthiadau a chyfleusterau gorau – yn gam cyffrous ymlaen i Ysgol yr Hafod.
“Mae hi’n ysgol wych gyda staff a llywodraethwyr ymroddedig, a dwi wrth fy modd y gallwn ni ymgymryd â’r gwaith yma gan ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael trwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.”
Amserlen a chyngor i rieni
Mae’r dyddiadau canlynol yn rhoi amserlen ddefnyddiol i rieni a phreswylwyr lleol…
10 – 31 Ionawr
Gwaith paratoadol ar gyfer dosbarthiadau symudol yn Rhodfa Melyd (draeniau, sylfaeni ac ati)
Wythnos sy’n cychwyn 31 Ionawr
Y dosbarthiadau symudol yn cyrraedd.
- Os ydych chi’n byw ar ffyrdd a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y llwybr neu’r dosbarthiadau symudol a chraen, fe ddylech chi dderbyn llythyr gyda map o’r llwybr.
7 – 18 Chwefror
Paratoi’r dosbarthiadau symudol yn barod ar gyfer y plant iau.
18 Chwefror
Fe fydd safle Ffordd Bangor ar gau i ddisgyblion er mwyn i’r dodrefn gael ei bacio a’i symud. Safle Rhodfa Melyd ar agor fel arfer.
21 – 25 Chwefror
Wythnos hanner tymor – ysgol ar gau.
- Bydd timau’n gorffen symud dodrefn o safle’r babanod yn Ffordd Bangor i safle’r plant iau yn Rhodfa Melyd.
28 Chwefror
Diwrnod hyfforddi staff – ysgol ar gau i ddisgyblion.
- Bydd staff yn dadbacio a pharatoi’r ystafelloedd dosbarth yn barod i’r disgyblion ddychwelyd.
1 Mawrth
Ysgol yn ailagor.
- Bydd pob disgybl (babanod ac iau) yn dychwelyd i’r safle yn Rhodfa Melyd, gan alluogi i’r gwaith adeiladu gychwyn yn Ffordd Bangor.
- Bydd yr hebryngwyr croesfannau ysgol yn symud o Ffordd Bangor i safle plant babanod wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.