Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Gwasanaeth Carolau’r Lluoedd Arfog yn dychwelyd ac mae’n argoeli i fod yn noson Nadoligaidd hyfryd.
Fe fydd y digwyddiad am ddim yma’n cael ei gynnal ar 13 Rhagfyr, 7pm yn Eglwys Blwyf San Silyn ac mae croeso i chi gyd ddod draw i forio canu.
Eleni, fe fydd Band Catrawd y Llu Awyr a Chôr Gwragedd Milwrol o RAF Fali yn perfformio, ac mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan garedig iawn gan RAF Fali, Swyddogion rhengoedd eraill, a’r elusennau y byddwn ni’n rhoi iddynt eleni ydi The RAF Association a Scotties Little Soldiers.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Mae Scotty’s Little Soldiers yn elusen wych sydd yn helpu plant a phobl ifanc sydd wedi colli rhiant a fu’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain.
“Mae The RAF Association yn gweithio i sicrhau nad oes unrhyw aelod o Gymuned y Llu Awyr yn cael ei adael heb y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Rydym ni mor falch o gefnogi’r elusennau yma ac rydym ni’n gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dangos eu cefnogaeth ar 13 Rhagfyr drwy ddod draw i’r gwasanaeth carolau yn San Silyn. Croeso i bawb!”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.