Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn
Pobl a lleArall

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 9, 2024 4:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
RHANNU

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau clywed gennych chi am unrhyw faterion neu heriau sy’n golygu bod heneiddio yng Nghymru yn anoddach, yn ogystal â’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffech eu gweld.

Mae’r Comisiynydd wrthi’n datblygu ei strategaeth a’i chynllun gwaith, a bydd yn defnyddio tystiolaeth sydd wedi’u rhannu gan bobl hŷn i bennu’r camau y bydd yn eu cymryd, a’r meysydd allweddol y bydd ei gwaith yn canolbwyntio arnynt.

Gallwch chi dynnu sylw at rywbeth sy’n eich poeni neu yn peri pryder i chi, neu rannu enghraifft o rywbeth sy’n gweithio’n dda y gellid ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru. Gallai’r hyn rydych chi’n ei rannu fod yn seiliedig ar eich profiadau eich hun, neu brofiadau eich teulu a’ch ffrindiau.

Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rwyf eisiau i Gymru arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda, ac fel Comisiynydd mae gennyf ran allweddol i’w chwarae er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.

“Mae’n hanfodol bod y camau rwy’n eu cymryd fel Comisiynydd yn cael eu harwain gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn, a dyna pam fy mod yn gwahodd pobl hŷn i gysylltu i dynnu sylw at y materion sy’n effeithio ar eu bywydau a rhannu eu barn a’u syniadau am y newidiadau a’r gwelliannau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

“Hoffwn glywed gan gynifer â phosibl o bobl hŷn o wahanol gefndiroedd a chymunedau ledled Cymru, felly treuliwch ychydig funudau’n llenwi fy holiadur os gallwch chi.

Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn werthfawr iawn wrth i mi ddatblygu fy strategaeth a’m cynllun gwaith, yn ogystal â gweithredu gyda fy nhîm i drawsnewid polisïau ac arferion mewn amrywiaeth o feysydd allweddol.”

Lleisio eich barn

Gallwch chi ymateb i holiadur y Comisiynydd mewn sawl ffordd.

Gallwch lawrlwytho copi o’r holiadur neu ei lenwi ar-lein.

Os hoffech chi gael copi caled o’r holiadur, fel bod modd ei ddychwelyd drwy radbost, ffoniwch 03442 640 670 neu anfon e-bost i goyn@comisiynyddph.cymru

Neu, os byddai’n well gennych chi siarad am eich profiadau gydag aelod o dîm y Comisiynydd dros y ffôn, ffoniwch 03442 640 670.

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybudd ynghylch Masnachwyr Twyllodrus yn dilyn Storm Darragh Rhybudd ynghylch Masnachwyr Twyllodrus yn dilyn Storm Darragh
Erthygl nesaf Armed Forces Gwasanaeth Carolau y Lluoedd Arfog yn Dychwelyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English