Ydych chi’n defnyddio’r bws i fynd i Ganol Tref Wrecsam?
Os ydych chi’n ei ddefnyddio, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn yr isod.
O ddydd Llun, Tachwedd 20, bydd dau wasanaeth cyswllt Tref newydd yn darparu cludiant ar hyd llwybr allweddol yn cysylltu lleoliadau yng nghanol ac o amgylch tref Wrecsam. Bydd yn cysylltu ag ardaloedd o fewn y dref sydd wedi colli rhai gwasanaethau bws.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Valentine’s Travel Solutions fydd yn rhedeg y gwasanaethau newydd a byddant yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9.30am a 5.50pm bob diwrnod.
Bydd Cyswllt Tref 1 yn gwasanaethu Lôn Rhosnesni, Maesydre, Stryt y Farchnad, Dôl yr Eryrod, y Stryd Fawr a’r Werddon.
Bydd Cyswllt Tref 2 yn gwasanaethu Ffordd yr Wyddgrug, Parc Technoleg Wrecsam, Pentre Bach, Ffordd Rhuthun a’r Werddon.
Mae’r amserlen ar gael ar ein gwefan.
Bydd tocynnau oedolion yn £1.50, a bydd cardiau teithio rhatach yn cael eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn dilyn cwymp cwmni bws amlwg a’r newidiadau a wnaed gan eraill wrth iddynt adolygu eu rhwydweithiau, mae rhannau o ganol y dref wedi eu gadael heb unrhyw fynediad i gludiant cyhoeddus.
“Bydd y Cyswllt Tref newydd yn ailgysylltu rhai o’r cymunedau hyn, ac yn darparu gwell mynediad i ganol y dref a’r prif leoliadau manwerthu.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau fod y gwasanaeth hwn yn weithredol yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a gallwn ddarparu mynediad i’r cymunedau hynny sydd wedi bod heb wasanaethau bws ers peth amser.
“Rwy’n gobeithio y bydd y gwasanaeth hwn yn cefnogi’r preswylwyr hynny sydd wedi cysylltu â ni, a chefnogi’r economi leol drwy ddod â mwy o bobl i Ganol Tref Wrecsam.
Dywedodd Christopher Valentine, Rheolwr Gyfarwyddwr Valentine’s Travel Solutions: “Fel perchennog busnes lleol a chyflogwr, rwy’n falch iawn o lansio’r gwasanaeth bws newydd hwn ar gyfer preswylwyr Wrecsam a’r rhai sy’n ymweld â’r dref.
“Mae’r cwmni wedi darparu bws newydd wedi ei lunio’n arbennig i gyd-fynd â’r llwybr teithio, ac mae hyn yn agor pennod gyffrous arall i’n cwmni.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU