Welsh Blood Service

Erthygl gwestai – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae galw ar drigolion lleol i helpu cleifion mewn angen drwy roi gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Mae ar ysbytai dal angen i bobl roi gwaed bob dydd i drin cleifion gydag ystod o gyflyrau, gan gynnwys mamau a babanod yn dilyn genedigaeth; cleifion canser sy’n derbyn cemotherapi fel rhan o’u triniaeth, a chleifion sydd wedi bod ynghlwm ag argyfyngau.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd wedi profi cyfnod hir o alw uchel gan ysbytai wrth iddynt barhau i ail-gyflwyno gwasanaethau megis llawdriniaethau rheolaidd sy’n ymofyn cynnyrch gwaed.  Mae’r cynnydd hwn yn golygu bod angen rhagor o bobl i roi gwaed er mwyn helpu i fodloni’r anghenion ychwanegol hyn.

Mae modd defnyddio rhoddion mewn sawl ffordd, gellir eu rhannu i dri chynnyrch; celloedd coch,  platennau a phlasma ffres wedi’i rewi, sy’n golygu y gall un rhodd arbed neu wella bywyd hyd at dri oedolyn neu chwe babi.

Ar draws Wrecsam, mae angen dros 600 o roddion a chynnyrch gwaed bob mis i ofalu am gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae apwyntiadau ar gael mewn tri lleoliad – Eglwys Santes Marged, Wrecsam, Gwesty’r Hand, Y Waun a Chlwb yr Hafod, Rhosllanerchrugog.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, “Mae angen oddeutu 350 o roddion bob dydd i helpu’r 20 ysbyty yr ydym yn eu cyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Maelor Wrecsam.

“Rydym yn derbyn cefnogaeth wych gan ein rhoddwyr yn yr ardal, ond rydym yn annog rhagor o drigolion i ystyried rhoi gwaed i helpu cleifion mewn angen.  Rydym wedi llwyddo i gynyddu ein capasiti yn yr ardal a gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl roi gwaed.

“Rydym yn galw ar roddwyr gwaed O negatif, O positif ac A positif yn arbennig i ddod ymlaen, ond os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o’r blaen ac os nad ydych chi’n siŵr beth yw eich grŵp gwaed, peidiwch â phoeni, cofrestrwch nawr ac fe wnawn ni’r darn hwnnw i chi.”

“Fis diwethaf, cafwyd 352 o roddion a allai fod wedi achub bywydau yn Wrecsam.

“Fel gwasanaeth, rydym yn dibynnu ar garedigrwydd pobl sy’n byw yng Nghymru i ddarparu rhoddion hanfodol i gleifion.

“Drwy roi awr o’ch amser, bydd gennych gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth i bobl yn eich cymuned a thu hwnt.

Mae mesurau diogelwch ychwanegol ar waith yn ein sesiynau rhoi gwaed, mae pob aelod o staff yn gwisgo gorchudd wyneb a phob eitem yn cael ei glanhau rhwng bob defnydd.

Aeth Alan ymlaen i ddweud: “Os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o’r blaen, beth am wneud rhywbeth arbennig yr wythnos hon – cofrestrwch i roi gwaed yn un o’r sesiynau yn eich ardal leol, fe allwch achub bywyd rhywun.”

Archebwch le i roi gwaed ac achub bywydau ar www.welsh-blood.org.uk/cy/

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH