Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth – ydych chi’n gallu helpu unigolyn ifanc?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth – ydych chi’n gallu helpu unigolyn ifanc?
Y cyngor

Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth – ydych chi’n gallu helpu unigolyn ifanc?

Diweddarwyd diwethaf: 2020/07/28 at 3:14 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Supported Lodgings
RHANNU

Mae Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth yn Wrecsam yn edrych am bobl i ddarparu lleoliadau sydd wir eu hangen i’n pobl ifanc 16 – 21 oed na allant fyw gartref ond nad ydynt yn barod i fyw ar ben eu hunain eto.

Cynnwys
“Mae’r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn“Diddordeb mewn helpu’r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth?

Mae’r gwasanaeth yn anelu i bontio’r bwlch i fyw’n annibynnol i bobl ifanc ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddatblygu’r sgiliau ymarferol a darparu sefydlogrwydd emosiynol y byddant ei angen i fyw fel oedolyn ac i fyw’n annibynnol yn llwyddiannus.

Maent angen mwy o bobl sy’n gallu darparu ystafelloedd yn eu cartrefi eu hunain a chynnig cefnogaeth, anogaeth ac arweiniad y byddant ei angen i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i fyw’n annibynnol.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Maent yn edrych am bobl o bob cefndir ac o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol. Mae ein pobl ifanc hefyd yn dod o gefndiroedd amrywiol ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y llety sydd ar gael.

Beth fyddwch chi’n ei gael yn ôl:

  • Cefnogaeth 24 awr
  • £140 yr wythnos am bob unigolyn ifanc y darperir llety iddynt
  • Hyfforddiant ar gael

Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae hwn yn wasanaeth gwych sy’n dibynnu ar bobl wych i ddod ymlaen a chynnig ystafell, cyngor a chefnogaeth i’r bobl ifanc hyn. Mae’n gyfle i helpu pobl ifanc a all fel arall fod mewn llety anaddas. Mae ein pobl ifanc yn haeddu’r gorau y gallwn ei ddarparu felly ystyriwch roi galwad i’r tîm i ddarganfod mwy.

“Mae’r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn“

Mae Leah McDaniel, sydd wedi bod yn westeiwr ers haf diwethaf wedi dweud wrthym am ei phrofiad. Dywedodd: “Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn ac wedi bod yn wych gallu eu cefnogi i ddod yn oedolion ac i gerdded gyda nhw wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd.

“Mae gennyf blentyn chwech oed hefyd sydd bellach wedi dod i adnabod yr unigolyn ifanc ac wrth ei fodd yn eu cwmni a dysgu amdanynt.

“Bu heriau megis helpu gydag emosiynau i ymdrin â sefyllfaoedd newydd ond rydym wedi gallu eu cefnogi a’u helpu i wneud y dewisiadau cywir wrth symud ymlaen felly mae wedi bod yn fuddiol iawn.

“Os gallwch agor eich cartref a darparu lle diogel ble gallant ddysgu i fod yn annibynnol a pharatoi i fynd allan i’r byd byddwn yn sicr yn dweud ewch amdani.”

Diddordeb mewn helpu’r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth?

Yna cysylltwch â nhw yn awr ar 07880 595455 neu ar e-bost SupportedLodgings@wrexham.gov.uk

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

YMGEISIWCH RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Diweddariad ar y Gymraeg Diweddariad ar y Gymraeg
Erthygl nesaf Inspection Cyllideb 2019/2020 – Datganiad Cyfrifon yn barod i’w Archwilio

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English