Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diweddariad ar y Gymraeg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diweddariad ar y Gymraeg
Arall

Diweddariad ar y Gymraeg

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 28, 2020 12:16 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Diweddariad ar y Gymraeg
RHANNU

Arwyddion Cymraeg

Fel rhan o’r ymateb i bandemig COVID-19 rydym wedi gorfod creu nifer o arwyddion mewnol ac allanol newydd.  Cofiwch, o dan safonau’r Gymraeg, fod rhaid i bob arwydd newydd fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg uwchben neu i’r chwith i’r testun Saesneg.  Mae’n rhaid i’r broflen gynllunio derfynol hefyd gael ei chymeradwyo gan Gydlynydd y Gymraeg cyn cynhyrchu’r arwydd.

Cynnwys
  • Arwyddion Cymraeg
  • Comisiynydd y Gymraeg – busnes fel arfer
  • Negeseuon Peiriant ateb / Neges llais
  • Ydych chi’n siarad Cymraeg?

Mae’r ddogfen yma yn cynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam ynglŷn â chreu arwydd dwyieithog gan gynnwys nifer o arwyddion i’w hargraffu. https://bit.ly/3hHmdiI

Comisiynydd y Gymraeg – busnes fel arfer

Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts atom ym mis Ebrill yn ymrwymo i oedi wrth ddelio â chwynion ac ymchwiliadau os oeddem yn dymuno iddo wneud hynny.  Er gwaethaf hyn, fe wnaethom ddal ati i weithio gyda’r comisiynydd ar unrhyw gwynion newydd ac ymchwiliadau oedd eisoes ar y gweill.  Rydym bellach wedi derbyn hysbysiad y byddwn yn dychwelyd at arferion rheoleiddio arferol ar 1 Awst, er efallai y bydd hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol.  Hoffai Stephen Jones – Cydlynydd y Gymraeg ddiolch i bob aelod o staff am eu cydweithrediad a’u hymateb cyflym i ymholiadau dros y misoedd diwethaf.

Negeseuon Peiriant ateb / Neges llais

Yn dilyn ymchwiliad gan gomisiynydd y Gymraeg, roedd hi’n ofynnol i ni gyflawni adolygiad llawn o bob neges a recordiwyd / negeseuon llais i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Nododd yr adolygiad nad oedd ambell recordiad yn cydymffurfio ac mae’r rhain wedi eu newid ers hynny. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod aelodau unigol o staff yn recordio eu negeseuon peiriant ateb eu hunain heb fod yn ymwybodol y gallai hynny arwain at gwyn pe bai siaradwr Cymraeg yn dod trwodd ar y switsfwrdd awtomatig.

Er mwyn osgoi unrhyw gwynion pellach, dylai unrhyw un sydd â neges peiriant ateb / neges llais adolygu a yw hyn yn dal yn angenrheidiol, ac os ydyw, bydd angen i chi drefnu fod siaradwr Cymraeg o fewn eich gwasanaeth yn recordio fersiwn dwyieithog ar eich cyfer.

Ydych chi’n siarad Cymraeg?

Os ydych yn aelod newydd o staff ac yn gallu siarad Cymraeg, cysylltwch gyda Stephen Jones ar cymraeg@wrexham.gov.uk er mwyn cael eich cynnwys ar restr y siaradwyr Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â safonau’r iaith Gymraeg, cysylltwch â Stephen.jones@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298866.

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Cafe Cyfle Newyddion gwych wrth i Gaffi Cyfle, Dyfroedd Alun ailagor o ddydd Sadwrn, Awst 1, 2020
Erthygl nesaf Supported Lodgings Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth – ydych chi’n gallu helpu unigolyn ifanc?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English