Erthyl Gwadd – Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
GWNAETH pwysau eithafol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru ddoe olygu y bu’n rhaid iddo gyhoeddi ‘digwyddiad parhad busnes’.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn derbyn oddeutu 2,000 o alwadau 999 y diwrnod am y tridiau diwethaf.
Roedd y digwyddiadau ddoe naw y cant yn uwch na’r hyn a ragfynegwyd, cynnydd o 11 y cant ers ddydd Llun diwethaf (12 Gorffennaf 2021) a chynnydd o 29 y cant ar gyfer yr un dydd Llun y llynedd (20 Gorffennaf 2020).
Roedd galwadau COCH lle mae bywyd dan fygythiad bron i 30 y cant yn uwch o’i gymharu â dydd Llun diwethaf.
Gwnaeth nifer y galwadau, ynghyd ag oedi hir mewn ysbytai ledled Cymru, olygu fod y galw am y gwasanaeth wedi goresgyn ei allu i ymateb.
O ganlyniad i hyn bu rhai cleifion yn aros am oriau lawer am ambiwlans.
Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth drefniadau arbennig i reoli’r galw, yn cynnwys gofyn i rai cleifion wneud trefniadau amgen, megis gwneud eu trefniadau eu hunain i fynd i’r ysbyty.
Roedd mwy na 21 y cant o’r galwadau 999 ddoe wedi’u categoreiddio fel rhai difrifoldeb isel GWYRDD, ac felly cawsant eu hasesu gan GIG 111 Cymru.
Yn eu plith roedd unigolyn â bachyn pysgota yn eu troed, un arall oedd wedi dal eu bys yn y peiriant gwneud sudd ac unigolyn yn dioddef o ddolur rhydd.
Dyma rai o’r penawdau eraill ddoe –
- Galwadau COCH lle mae bywyd dan fygythiad ar unwaith wedi cynyddu 29 y cant ers dydd Llun diwethaf, a 175% yn uwch na’r un dydd Llun y llynedd
- Y prif reswm y gwnaeth pobl ffonio 999 ddoe oedd problemau anadlu (13.4 y cant) gyda chwympiadau’n ail (13.3 y cant)
- Roedd tua naw y cant o’r rhai a ffoniodd yn dioddef poenau yn eu brest a saith y cant yn dweud eu bod yn teimlo ar fin llewygu
- Roedd galwadau at gleifion yn dioddef problemau anadlu wedi cynyddu 37 y cant o’i gymharu â dydd Llun diwethaf
- Gwnaeth criwiau ambiwlans dreulio 516 o oriau mewn ysbytai ledled Cymru ddoe yn aros i drosglwyddo cleifion
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadadu, Lee Brooks: “Prin iawn rydym ni’n cyhoeddi digwyddiad parhad busnes ac nid yw’n benderfyniad rydym ni’n ei wneud yn hawdd – mae’n arwydd o sefyllfa ddifrifol.
“Fe wnaeth y gwres ddoe, ynghyd â’r oedi yn yr ysbytai, olygu ein bod wedi cyrraedd pwynt yn gynnar yn y noson lle’r oedd y galw’n goresgyn ein capasiti i ymateb mewn modd diogel ac amserol.
“Hoffem ddweud wrth unrhyw un fu’n aros am gyfnod maith am ambiwlans ddoe ein bod ni’n ymddiheuro am eich profiad chi, ac nid dyma’r gwasanaeth rydym ni’n dymuno ei ddarparu.
“Tra’n bo ni mewn sefyllfa mwy sefydlog heddiw rydym ni’n parhau i wynebu pwysau eithriadol ar draws Cymru, ac mae arnom ni angen cymorth y cyhoedd.
“Ffoniwch 999 os oes bywyd mewn perygl yn unig, os gwelwch yn dda – hynny yw, ataliad ar y galon, poenau yn y frest neu anawsterau anadlu, mynd yn anymwybodol, tagu neu waedu difrifol.
“Os nad yw’n argyfwng lle bo bywyd dan fygythiad yna mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio un o’r llu o ddulliau amgen yn hytrach na 999, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar ein gwefan GIG 111 Cymru neu eich meddyg teulu, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau.”
Ychwanegodd Lee ei ddiolchiadau i staff a gwirfoddolwyr ar draws y gwasanaeth.
“Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr ym mhob cwr o Gymru a phob rhan o’n gwasanaeth yn gweithio i’r eithaf i ddarparu’r gwasanaeth gorau y medrwn i bobl Cymru dan amodau anodd iawn,” meddai.
“Hoffwn ddweud diolch o galon wrth gydweithwyr am yr ymdrech aruthrol ar y cyd.”
Cliciwch yma i ddarllen prif gynghorion y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer diogelwch yn ystod yr haf.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN