Bydd prif gyntedd gorsaf bws Wrecsam yn cau yfory am 6pm tan ddydd Llun, 9 Tachwedd.
Bydd gwasanaethau bws yn gweithredu ar lefel debyg i’r gwasanaeth a weithredwyd hyd yma ym mis Hydref, sef oddeutu 68% o’r gwasanaeth arferol.
Meddai Michael Morton, rheolwr gyfarwyddwr bysiau Arriva yng Nghymru a Gogledd-Orllewin Lloegr: “Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel a dibynadwy i bobl Wrecsam er mwyn caniatáu iddynt fynd allan i weithio neu ymgymryd â siwrneiau hanfodol eraill.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb er mwyn helpu i ddiogelu ein staff a’n cwsmeriaid, a byddwn yn parhau i lanhau ardaloedd hanfodol y bws rhwng teithiau, ac wrth gwrs, pan fyddant yn dychwelyd i’r depo. Rydym yn ddiolchgar iawn o’r cymorth a’r gefnogaeth yr ydym wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Bithell a’i dîm.”
Gweler eu gwefan am ragor o fanylion am y gwasanaeth: https://www.arrivabus.co.uk/wales
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Bysiau Arriva, Michael Morton. Maent wedi cadarnhau y bydd cludiant cyhoeddus ar gael yn ystod y cyfnod atal er mwyn caniatáu i bobl ymgymryd â siwrneiau hanfodol, er enghraifft, teithio i’r gwaith neu i’r siop i brynu bwyd a chyflenwadau, mynychu apwyntiadau iechyd neu rywbeth tebyg. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu cludiant cyhoeddus diogel i bobl ar draws Wrecsam.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG