Nid oedd unrhyw drenau’n rhedeg ar hyd y rheilffordd o Wrecsam i Bidston y penwythnos hwn a disgwylir amhariad mewn i’r wythnos hon ac mae hyn yn hollol annerbyniol. Dyna’r neges gan y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cludiant a’r Amgylchedd:
Cymerwyd y penderfyniad gan Wasanaeth Trenau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu trenau yn Ne Cymru gan beri anhwylustod i deithwyr Gogledd Cymru, heb ymgynghori na rhybudd ymlaen llaw, ac achoswyd llawer o amhariad ac anghyfleustra i lawer o bobl sydd yn dibynnu ar y gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cymaint oedd yr amhariad dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos hon, doedd gen i ddim dewis ond cyflwyno sylwadau i Ysgrifennydd Cludiant y Cabinet, Ken Skates. Mae’r sefyllfa’n annerbyniol ac mae wedi achosi anghyfleustra ac amhariad diangen i bobl yn Wrecsam. Rwyf wedi gofyn iddo ymchwilio sut y gwneir penderfynu o’r fath ac yna sut y caiff y penderfyniadau eu cyfleu i deithwyr. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau trên i gyrraedd y gwaith neu’r ysgol ar amser ac ni ddylai sefyllfa fel hon ddigwydd eto”.
Yn ei lythyr, pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell bod disgwyliadau teithwyr ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn uchel, a gan fod pŵer i wneud penderfyniadau wedi’i ddatganoli i Drafnidiaeth Cymru, disgwylir y bydd gwell dealltwriaeth o anghenion teithwyr yn cael ei ddarparu.
Rwy’n annog unrhyw un a fydd yn cael eu heffeithio i gyflwyno sylwadau i’w Haelod Cynulliad neu’n uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y mater hwn.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN