Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar faes newydd a dynodedig o Newyddion Cyngor Wrecsam sy’n canolbwyntio ar gyngor arbed ynni, fel rhan o’n hymgyrch arbed ynni lleol.
Ein nod yw y bydd y blog newyddion hwn yn gwasanaethu fel canolbwynt adnoddau cynhwysfawr, yn cynnig ystod o argymhellion a chyngor ymarferol i helpu busnesau, staff a phreswylwyr i leihau eu defnydd o ynni a mabwysiadu arferion ecogyfeillgar.
Nid yw’n barod eto, ond dros y misoedd nesaf gallwch ddisgwyl gweld podlediadau ar y testun, cynnwys ar arbed ynni, yn ogystal â dolenni i safleoedd eraill sy’n cynnig argymhellion arbed ynni. Rydym hefyd yn cynllunio nifer o weithdai i gefnogi ein hymgyrch.
“Gweithdai yn canolbwyntio ar strategaethau arbed ynni”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Yn ogystal â’r wybodaeth arbed ynni, mae ein tîm Datgarboneiddio hefyd yn cynllunio cyfres o weithdai yn canolbwyntio ar strategaethau arbed ynni. Bydd y gweithdai hyn yn rhoi canllawiau cynhwysfawr a sesiynau rhyngweithiol i’r mynychwyr, er mwyn eu hannog i fabwysiadu arferion cynaliadwy o fewn y gymuned.”
Cadwch lygaid am y newyddion diweddaraf ar y gweithdai ac adnoddau wrth i’r ymgyrch ddatblygu.
Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam