Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol
Y cyngorDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 23, 2024 11:57 am
Rhannu
Darllen 5 funud
fêps
RHANNU

Os ydych chi’n fêpio, mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod sut i’w gwaredu’n ddiogel.  Mae Recycle Your Electricals yn dweud bod hanner fêps untro’n cael eu taflu i’r bin (dros 5 miliwn yr wythnos) yn y DU, sy’n bryderus iawn.

Cynnwys
  • Mae hyn yn gallu achosi tannau
  • Beth i’w wneud gyda fêps a ddefnyddiwyd
  • Beth i’w wneud gyda batris
  • Eitemau eraill na allwch eu rhoi yn y biniau
    • Cynwysyddion nwy
    • Caniau ocsid nitraidd

Mae hyn yn gallu achosi tannau

Mae gwaredu fêps ac eitemau eraill sy’n cynnwys batris yn anghywir wedi achosi tannau ar draws y sector gwastraff dros y misoedd diwethaf, felly byddwch yn hynod ofalus.  Fis diwethaf yn Wrecsam, cafwyd tân yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn a achoswyd yn ôl pob tebyg gan fatri lithiwm a ddefnyddir yn aml mewn nwyddau trydanol fel fêps.

Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol

Mae unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl nad yw’n cael ei ailgylchu’n briodol yn peri risg i bobl ac adeiladau, felly sicrhewch nad ydych yn rhoi’r eitemau hyn yn y bin.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Ni ddylech roi fêps untro na fêps aildrydanadwy mewn unrhyw finiau gwastraff na chynwysyddion ailgylchu ymyl palmant, gan y gallai hynny roi pobl mewn perygl.  Pe baent yn cael eu gwasgu neu eu difrodi yn y lorïau biniau neu’r canolfannau ailgylchu, fe allai ddechrau tân, a all fod yn beryglus iawn.”

Beth i’w wneud gyda fêps a ddefnyddiwyd

Gellir derbyn fêps fel Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (CTEG) a gellir eu gwaredu mewn cynhwysydd Peiriannau Domestig Bychain ym mhob un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Wrecsam.

Mae nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu fêps hefyd yn gadael i chi eu dychwelyd a’u hailgylchu yno.  Ymwelwch â thudalen Recycle Your Electricals recycling locator a dewiswch ‘vapes’ yn y gwymplen i weld ble fedrwch chi eu gwaredu.

Beth i’w wneud gyda batris

Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!

Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.

Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.

Eitemau eraill na allwch eu rhoi yn y biniau

Cynwysyddion nwy

Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.

Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach) gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt.

Os oes gennych chi unrhyw beth ar ôl ynddynt, bydd yn rhaid i chi fynd â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau nwy yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.

Caniau ocsid nitraidd

Os oes gennych chi ganiau ocsid nitraidd, ewch â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau ocsid nitraidd yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.

I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchufêpsrecyclingvapes
Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol  Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol 
Erthygl nesaf Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw (24/04/24) Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn dechrau heddiw (24/04/24)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English