Mewn ymgais barhaus i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan yn Wrecsam, cymerodd goruchwylwyr drysau ran mewn hyfforddiant ychwanegol yn ddiweddar.
“Adnabod a chefnogi pobl sy’n agored i niwed”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n wych bod ein goruchwylwyr drws yn gweithio’n agos â’r Cyngor yn ogystal â menter Atal Trosedd heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau fod pobl sydd ar noson allan yn Wrecsam yn cael eu cadw’n ddiogel.
“Bydd yr hyfforddiant yn helpu staff drysau i adnabod a chefnogi pobl sy’n mynd yn agored i niwed ar noson allan a hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb sydd ar noson allan yn Wrecsam yn cael amser da a diogel.”
Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i helpu ymwelwyr ag economi’r nos Wrecsam sydd o bosibl yn agored i niwed am amryw o resymau, er enghraifft am eu bod wedi yfed gormod, wedi colli eu ffrindiau neu oherwydd eu bod dan oed. Roedd yr hyfforddiant hefyd yn cynnwys dysgu sut i adnabod ymddygiad annerbyniol o natur rywiol a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant.
Pobl Agored i Niwed – ‘Nabod yr Arwyddion
Meddai Ann Williams, Swyddog Trwyddedu Rhanbarth Dwyreiniol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein cwmnïau Diogelwch Drysau hefyd wedi yn cyfrannu at gynhyrchu cod ar gyfer pobl agored i niwed: ‘gweld, ymyrryd, gweithredu’ (S.I.A). Bwriad y cod yw helpu goruchwylwyr drysau i ymateb yn effeithiol ac yn brydlon mewn os ydynt yn gweld rhywun sydd o bosibl yn agored i niwed. Rhoddwyd copi maint poced o’r cod i bob goruchwyliwr drws. Rydym yn gobeithio y bydd y cod, ynghyd a’r hyfforddiant, yn helpu i gefnogi staff drysau i adnabod yr arwyddion pan fydd rhywun angen help a sicrhau bod Wrecsam yn parhau i fod yn lle diogel i fynd am noson allan.”
Roedd yr hyfforddiant yn rhan o fenter atal trosedd Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru: “Yfed Llai, Mwynhau Mwy”, sydd wedi’i anelu at annog pobl i gael noson allan dda a diogel drwy dynnu sylw at y ffaith bod pobl sydd wedi yfed gormod o alcohol yn fwy agored i niwed ac mewn mwy o berygl o ddioddef ymosodiad rhywiol neu dreisgar.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I