Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Pobl a lleBusnes ac addysg

Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/06/25 at 3:38 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Improvements
RHANNU

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau i weithredu’r cynlluniau cyffrous ar gyfer adfywio’r Stryt Fawr a’r ardaloedd cyfagos.

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Creu parth cerddwyr ar Stryt Yorke / Stryt Fawr / Allt y Dref a Stryt yr Abad
  • Creu mannau gwyrdd a phlannu coed
  • Gosod blociau palmant newydd, ymylon palmant gwenithfaen a dodrefn stryd

Yn dilyn canlyniadau’r ymarfer ymgynghori diweddar, mae’r cynllun wedi ei ymestyn i gynnwys Allt y Dref a Stryt yr Abad.

Mae Alun Griffiths Contractors Ltd wedi eu penodi i ddarparu’r gwelliannau amgylcheddol i Ganol Dinas Wrecsam. Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau’r wythnos hon ar Stryt Yorke ac Allt y Dref ddydd Llun, 1 Gorffennaf.

Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn 25 Hydref 2024.

Mae hwn yn waith mawr ond bydd amhariad yn cael ei leihau gymaint â phosibl, gyda’r prif lwybr yn aros ar agor i draffig a bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gadw ar bob stryd.

O ystyried lled cyfyngedig Allt y Dref a Stryt yr Abad, bydd angen cau’r rhain i gerbydau am gyfnodau penodol tra maent yn cael wyneb newydd.  Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu.

Bydd mesurau ar waith i leihau amhariad i fusnesau yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys darparu porthorion gan y Contractwr i gefnogi busnesau gyda chyflenwadau a bydd Alun Griffiths, Swyddog Cyswllt Cyhoeddus yn galw heibio i drafod y manylion hyn.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam:  “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld y cynlluniau ar gyfer y Stryt Fawr a’r ardaloedd cyfagos yn dod yn fyw – gan barhau gyda’n hymrwymiad i fuddsoddi a gwella canol ein dinas fel ei bod yn darparu’r profiad gorau posibl i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr.”

Er mwyn gwneud y gwaith angenrheidiol mor ddiogel â phosib, bydd angen cau Allt y Dref i gerbydau o 1 Gorffennaf, a bydd yn ail-agor ddechrau Medi 2024. Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu a bydd busnesau yn cael eu cefnogi gyda’u chyflenwadau. Ar gyfer busnesau ar Allt y Dref a Stryt Yorke, os byddwch eisiau cysylltu gweler manylion cyswllt y prosiect isod:

E-bost: wrecsam@alungriffiths.co.uk Ffôn: 0330 041 2185

Oriau gwaith y Contractwr fydd rhwng 7:30am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac os bydd angen gweithio ar y penwythnos, 9am tan 1pm ar ddydd Sadwrn.  Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i weithio ar benwythnosau ac ni fydd y Contractwr yn gweithio yn ystod Gŵyl Banc mis Awst.

Rydym yn gwerthfawrogi fod hon yn ardal brysur o’r ddinas ac ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw darfu dros dro a achosir. Bydd y Contractwr yn gweithio’n ddiogel, effeithlon ac i’r safonau uchaf er mwyn cwblhau’r gwaith cyn gynted ag y bo modd.

Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Improvements
Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae Motorfest Wrecsam yn dychwelyd eto yn 2024: Campau Cyffrous, Tryciau Creaduriaid a Mwy!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Open Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English