Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf
Pobl a lleArall

Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 26, 2024 1:20 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf
RHANNU

Erthygl Gwadd – Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol

Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf rhwng 12pm-5pm, gyda chyfres o berfformiadau dawns awyr agored ysblennydd, cyfle i grwydro o gwmpas a stondinau anhygoel gyda bwydydd o bob cwr o’r byd! Mae yna rywbeth i bawb yn y digwyddiad gwych yma sy’n addas i deuluoedd ac yn rhad ac am ddim.

Mae Paallam Arts, sefydliad celfyddydau perfformio o Wrecsam, yn cynhyrchu GŴYL ‘SPIRIT’ 24 am yr ail flwyddyn. Cefnogir yr ŵyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam, Diverse Cymru, Canolfan Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyngor Hil Cymru, Tŷ Pawb a mwy.

Mae GŴYL ‘SPIRIT 24 yn ŵyl ddeuddydd, sy’n rhoi cyfle i ysgolion DDOD DRAW a CHYMRYD RHAN ar 12 Gorffennaf yn Nhŷ Pawb, er mwyn dysgu sgiliau newydd a gwylio cynhyrchiad dawns Cymreig, sydd wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer plant gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Dance Collective Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Eisteddfod a mwy.

Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, o 12pm ymlaen, bydd Sgwâr y Frenhines yn cael ei drawsnewid yn lle bywiog, yn llawn dawnswyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd ysgolion dawns lleol hefyd yn arddangos eu gwaith yno, yn ogystal â chyfres o stondinau bwyd a stondinau cymunedol, a bydd croeso i bawb ddod draw i’w mwynhau.

Ymhlith yr artistiaid sy’n cymryd rhan mae Clwb Dawns WISP Wrecsam, Hip Hop Cymru Wrecsam, Osian Meilir, Nirthya Pillai, Krystal Lowe, Ayodhana Kalarippayattu Gurukkul a mwy. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld cyfres o berfformiadau gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol medrus yng nghanol Wrecsam.

Meddai Krishnapriya Ramamoorthy, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Paallam Arts, “Rydym wedi ymrwymo i roi cyfle i’r gymuned weld perfformiadau dawns o safon uchel. Mae GŴYL ‘SPIRIT’ 24 yn rhoi cyfle unigryw i gymunedau roi cynnig ar ddawnsio mewn modd agored a rhyngweithio gydag artistiaid mewn amgylchedd cyfeillgar. Rydym yn awyddus i feithrin diddordeb mewn dawns a’r celfyddydau symud ac mae hyn yn mynd â ni gam yn nes at ein cenhadaeth”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i www.paallamarts.org.

Rhannu
Erthygl flaenorol Improvements Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Erthygl nesaf Bwletin arbed ynni 3: Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell. Bwletin arbed ynni 3: Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English