Mae gwaith wedi dechrau i wella cyswllt Teithio Llesol yng nghanol y ddinas.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam, gyda chyllid trwy Gynllun Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, i uwchraddio rhan o rwydwaith cerdded a beicio lleol y ddinas.
Mae’r llwybr rhwng Maesgwyn Road a Berse Road wedi elwa o’r gwelliannau canlynol:
- mae’r llwybr wedi’i ailwynebu, felly mae’n fwy llyfn ac yn fwy dymunol ar gyfer cerdded neu olwyno
- mae’r gwrychoedd a’r llwyni wedi’u torri’n ôl, felly mae mwy o le i symud
- nawr mae’r llwybr yn fwy agored ac mae’r goleuadau uwchben yn well yn ystod y nos
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Dim ond dechrau gwaith mawr ei angen yw hyn fel rhan o’r Cynllun Teithio Llesol, a fydd yn hwyluso teithio i ganol y ddinas ar gyfer gwaith neu hamdden.
“Mae’n bwysig i gysylltiadau Teithio Llesol gael eu gwella yn y rhan hon o’r ddinas fel ffordd effeithiol o liniaru problemau parcio presennol mewn mannau gwaith ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, aelod lleol dros Brynyffynnon: “Rwy’n falch o weld bod y llwybr hwn i ganol y ddinas wedi’i wella. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y cysylltiadau teithio llesol hyn yn gwneud teithio i Wrecsam mor hawdd a diogel â phosibl, felly mae hyn yn ddechrau ardderchog i’r prosiect.” links make travelling into Wrexham as easy and safe as possible so this an excellent start to the project.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.