Enillydd y Wobr Partneriaeth Louise Davies gyda Clare Field, Cyfarwyddwr Gweithredol am Phobl.

Cafodd llu o staff y cyngor eu cydnabod am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y Gwobrau WOW blynyddol eu cynnal yn Siambr y Cyngor, gydag uwch swyddogion ac aelodau arweiniol yn cyflwyno gwobrau i’r enillwyr.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Roedd categorïau yn cynnwys gwobr Dewis y Bobl – gyda’r cyhoedd yn pleidleisio i’r enillwyr – ynghyd â Modelau Rôl a gwobrau tîm cyfan.

Aelodau o’r Tim Atgyweirio Tai gyda’r Cynghorydd David Griffiths, Prif Aelod dros Tai.

“Dylai’r enillwyr fod yn falch iawn o’u hunain”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwyf bob amser yn falch iawn o allu cyflwyno gwobrau i enillwyr y Gwobrau WOW blynyddol yng Nghyngor Wrecsam.

“Mae gennym weithlu ardderchog yma yn y cyngor, ac mae’n iawn bod y rhai sy’n mynd gam ymhellach yn cael eu cydnabod a’u canmol am eu hymdrechion.

“Rwy’n llongyfarch bawb sydd wedi derbyn gwobrau eleni – dylent i gyd fod yn falch iawn o’u hunain.”

Enillwyr

Mae’r rhestr lawn o gategorïau, enillwyr a’r sawl gafodd Ganmoliaeth Uchel fel yr isod:

  • Prentisiaeth Fodern: Enillydd; Lucy Lancelott , Atgyweirio Tai, H&E
  • Dewis y Bobl: Enillydd; Atgyweirio Tai, H&E
  • Canolbwyntio ar Gwsmeriaid: Canmoliaeth Uchel; Strydlun, E&P. Enillydd; Matthew Griffiths, C&CS. Enillydd (Tîm); Gwasanaethau Cofrestru, C&CS
  • Rhagoriaeth: Canmoliaeth Uchel; Miss M Jones a Mr M Roberts, Ysgol Sant Pedr, Addysg. Canmoliaeth Uchel; Jean Hughes, ASC. Enillydd; Tîm DOLS, ASC.
  • Partneriaeth: Canmoliaeth Uchel; Tracey Evans, C&CS. Enillydd (Tîm) Cynllun VPR Syriaidd. Enillydd; Louise Davies, C&CS.
  • Model Rôl: Canmoliaeth Uchel; Louise Peagram, E&P. Canmoliaeth Uchel; Wayne Ellis Brookfield, ASC. Enillydd; Andrew Pearce, E&P. Enillydd; Maureen Lee, H&E.
  • Gwobr Tîm Arbennig: Enillydd; Gwasanaethau Swyddfa, C&CS.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI