Mae Cyngor Wrecsam wedi llunio rhestr o waith gwerth cyfanswm o £3 miliwn y gellir ei wneud i wella Teithio Llesol ar draws y Fwrdeistref Sirol os derbynnir yr arian angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru.
Mae Teithio Llesol yn canolbwyntio ar gerdded a beicio fel modd o deithio er enghraifft i’r gwaith neu i’r ysgol. Mae hyn wedi bod yn uchel ar ein hagenda ers rhai blynyddoedd bellach gyda gwaith yn cynnwys datblygiad Mapiau Teithio Llesol a nifer o sesiynau o ymgynghori ac ymgysylltu wedi arwain at ddatblygu a gweithredu amrywiaeth o brosiectau.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Yn ddiweddar ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Awdurdodau Lleol yn gofyn am Fynegiannau o Ddiddordeb ar gyfer mesurau cludiant cynaliadwy.
Rydym wedi ymateb gyda rhestr o brosiectau y byddem wrth ein bodd eu rhoi ar waith a fyddai’n costio oddeutu £3 miliwn.
Y cynlluniau a gyflwynwyd yw:
- Estyniad i lwybr troed/beicio ar y B5605 yn Rhiwabon
- Cynllun gwella llwybr troed ar y B5430 Ffordd Talwrn
- Adolygu ffordd ddeuol drefol y B5605 yn Rhiwabon
- Marciau cadw pellter cymdeithasol ger Croesfannau Patrôl Ysgolion
- Trwsio llwybrau troed a beicio hŷn.
- Uwchraddio llwybrau troed yn llwybrau beicio
- Adolygu parthau parcio ar y stryd a pharthau cerddwyr
- Lledu llwybrau troed ar ffyrdd strategol
- Adolygu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd y sir (nid ffyrdd A a B)
- Cyflwyniad parthau 20 m.y.a. mewn ardaloedd trefol
- Arwyddion cadw pellter cymdeithasol yng nghanol trefi ac mewn atyniadau dynodedig eraill mewn pentrefi cyfagos
- Darparu llochesi beics mewn ysgolion
- Cyfleusterau storio beics diogel mewn gorsafoedd rheilffordd yn y Fwrdeistref Sirol
- Gwaith ar encilfeydd bws
- Gwelliannau iechyd cyhoeddus a diogelwch teithwyr yng Ngorsaf Fysiau Wrecsam
- Gwella mesurau hylendid ar y seilwaith cludiant cyhoeddus
Ar hyn o bryd dim ond 10% o’r holl siwrneiau i’r gwaith a wneir gan drigolion Wrecsam sydd drwy ddulliau teithio llesol (9% ar droed ac 1% ar feic) sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Felly mae digon o le i annog mwy o siwrneiau teithio llesol a bydd y cynlluniau uchod yn gwneud cyfraniad mawr tuag at hybu hyn.
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, a’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd David A Bithell, yn cytuno: “Mae hon yn rhestr hir ac rydym yn cydnabod na fydd pob cynllun yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, ond mae hyn yn dangos yn union beth yr ydym eisiau ei gyflawni a’r mwyaf o arian yr ydym yn ei gael, y mwyaf y byddwn yn gallu ei wneud yma yn Wrecsam. Byddwn yn dal ati gyda’n cynlluniau i gefnogi dulliau teithio cynaliadwy ac i leihau allyriadau carbon a gwella’r amgylchedd i bawb yn Wrecsam a byddwn yn mynd ar ôl pob cyfle ariannu posibl sydd ar agor i ni. Y mwyaf o arian a glustnodir i ni, y mwyaf y gallwn ei gyflawni.
- Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
- Coridor Twf Ffordd yr Wyddgrug.
- Priffordd yr A483 – gwelliannau i’r gyffordd a gwella capasiti (mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
- Llochesi/Storfeydd a Gwaith Hyrwyddo Teithio Llesol
Mae cynlluniau i annog teithio llesol ar y gweill ar hyn o bryd yn:
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19