Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap
ArallBusnes ac addysg

Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 12, 2022 12:03 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap
RHANNU

Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Cynnwys
  • Ynglŷn â’r gwiriad treth
  • Cofrestru ar gyfer treth
    • Os ydych yn gyflogai: Talu Wrth Ennill (TWE)
  • Os ydych yn hunangyflogedig: Ffurflenni Treth Hunanasesiad
  • Os ydych yn gweithredu drwy gwmni: Treth Gorfforaeth

Mae’r llywodraeth yn rhoi gofynion treth newydd ar waith ar gyfer ceisiadau am drwyddedau penodol. Ategir hyn gan wasanaeth digidol newydd sy’n cael ei ddatblygu gan CThEM. Mae’n helpu pobl yn y diwydiannau tacsi, cerbydau hurio preifat a metel sgrap i gwblhau gwiriad treth newydd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi’u cofrestru i dalu treth ac mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn talu’r dreth y dylent, gan greu chwarae teg i’r mwyafrif sy’n cydymffurfio. Mae CThEM yn cyd-weithio â chyrff yn y diwydiant i wneud hyn mor syml â phosib. Dylai’r gwiriad gymryd ychydig funudau bob ychydig flynyddoedd a’i bwrpas yw cadarnhau bod rhywun wedi’i gofrestru’n briodol ar gyfer treth.

Bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth pan fyddwch yn adnewyddu’ch trwydded fel:

  • gyrrwr tacsi (cerbyd hacni)
  • gyrrwr cerbyd hurio preifat (a thrwyddedau deuol)
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat
  • deliwr metel sgrap sy’n gasglwr symudol
  • deliwr metel sgrap ar safle

Ynglŷn â’r gwiriad treth

Byddwch yn gallu cwblhau’r gwiriad treth hwn ar GOV.UK, drwy’ch cyfrif Porth y Llywodraeth. Dim ond ychydig o gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb i roi gwybod i CThEM sut rydych yn talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm yr ydych yn ennill o’ch masnach drwyddedig. Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth eisoes, gallwch gofrestru ar GOV.UK.

Dim ond ychydig funudau y dylai’r gwiriad treth ei gymryd. Bydd arweiniad ar GOV.UK a bydd unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol yn gallu cwblhau’r gwiriad treth dros y ffôn drwy linell gymorth cwsmeriaid CThEM.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod. Mae’n rhaid i chi roi’r cod hwn i’ch corff trwyddedu. Ni all y corff trwyddedu symud ymlaen â’ch cais am drwydded neu adnewyddiad hyd nes y bydd y gwiriad treth wedi’i gwblhau a’i fod wedi cael y cod.

Bydd eich corff trwyddedu ond yn cael cadarnhad gan CThEM eich bod wedi cwblhau’r gwiriad treth, ni fydd ganddynt fynediad at wybodaeth am eich materion treth.

Cofrestru ar gyfer treth

Mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu treth drwy TWE (Talu Wrth Ennill), Hunanasesiad a/neu Treth Gorfforaeth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os dylech fod wedi eich cofrestru i dalu treth a’ch bod heb eich cofrestru, bydd CThEM yn gweithio gyda chi’n brydlon ac yn broffesiynol i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw cael eich treth yn gywir, ond mae CThEM yma i helpu.

Os ydych yn gyflogai: Talu Wrth Ennill (TWE)

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy TWE. Dyma’r system y mae cyflogwyr yn ei defnyddio i gymryd cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol cyn talu cyflogau.

Rhagor o wybodaeth ar TWE.

Os ydych yn hunangyflogedig: Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Os ydych yn hunangyflogedig byddwch yn talu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy Hunanasesiad. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn.

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn hunangyflogedig fel ‘unig fasnachwr’ ac roedd eich incwm masnachu gros blynyddol yn fwy na £1,000
  • roeddech yn bartner mewn partneriaeth busnes

Rhagor o wybodaeth ar cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os ydych yn gweithredu drwy gwmni: Treth Gorfforaeth

Mae angen i gwmnïau cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth pan fyddant yn dechrau masnachu neu’n ailgychwyn busnes segur.

Rhagor o wybodaeth ar Treth Gorfforaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Armed Forces Day Cadwch y dyddiad! Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ym mis Mehefin 2022
Erthygl nesaf Booster Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English