Mae ceisiadau ar gyfer £200 tuag at filiau ynni y gaeaf hwn ar agor ar wefan Cyngor Wrecsam.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr, bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio’r taliad un-tro hwn o £200 i helpu i dalu am eu biliau ynni’r gaeaf hwn. Dim ots pa ffordd yr ydych yn talu eich bil, er enghraifft ar fesurydd rhag-dalu, debyd uniongyrchol neu’n chwarterol, ac os ydych yn defnyddio tanwydd ar ac oddi ar y grid.
Os ydych ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, byddwn yn ysgrifennu atoch yn eich gwahodd i wneud cais am y talid a bydd y broses ymgeisio ar-lein yn agor ar 26 Medi.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd Chwefror 28, a dylai’r taliad i’r ymgeiswyr cymwys gael ei wneud erbyn Mawrth 31.
I fod yn gymwys am daliad un i bob aelwyd, mae’n rhaid i chi fod wedi derbyn un o’r budd-daliadau cymwys rhwng Medi 1, 2022 a Ionawr 31, 2023, bod yn gyfrifol am dalu’r bil tanwydd yn eich cartref, a gwneud cais cyn Chwefror 28, 2023. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar dudalen cynllun cefnogi tanwydd gaeaf Cymru Llywodraeth Cymru.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR