Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwiriwch fod y tacsi rydych yn ei ddefnyddio’n gyfreithlon!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwiriwch fod y tacsi rydych yn ei ddefnyddio’n gyfreithlon!
Pobl a lleY cyngor

Gwiriwch fod y tacsi rydych yn ei ddefnyddio’n gyfreithlon!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2024 12:16 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Taxi
RHANNU

Wrth i’r Nadolig agosáu a phawb yn edrych ymlaen at eu partïon Nadolig gyda ffrindiau a theulu, rydym yn atgoffa pawb bod angen gwneud yn siŵr bod unrhyw dacsi yr ydych yn ei ddefnyddio wedi ei drwyddedu’n iawn.

Mae rhai perchnogion ceir yn cymryd mantais o bobl ar ddiwedd eu noson ac yn cymryd eu harian heb fod yn yrwyr tacsi cyfreithlon ac wedi’u trwyddedu’n iawn.

Os nad ydynt wedi’u trwyddedu nid oes ganddynt yswiriant, sy’n golygu y gallai fod yn gostus i chi yn y pendraw os fydd unrhyw beth yn digwydd.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch cadw chi’n ddiogel:

  • Bydd pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni yn arddangos platiau trwydded gwyn a phiws a ddylai fod y tu allan i’r cerbydau.
  • Bydd Cerbyd Hacni trwyddedig yn arddangos plât cefn ac arwydd to wedi’i oleuo gyda’r gair ‘TAXI’.
  • Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.
  • Bydd gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a’r dyddiad dod i ben.   Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn i chi fynd i unman.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd “Bydd swyddogion gorfodi’r Cyngor yn gweithio ar y cyd â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig yn cynnal gwiriadau.

“Gall nifer o yrwyr tacsi heb drwydded fod yn gyrru mewn strydoedd prysur neu aros mewn mannau prysur ar gyfer unigolion neu grwpiau, felly sicrhewch eich bod yn gwirio nad ydych yn dod yn rhan o sgâm.

“Nid yw gyrwyr tacsi heb drwydded ag unrhyw yswiriant, ac maent hefyd yn cymryd incwm i ffwrdd o weithredwyr ac unigolion cyfreithlon.”

Dywedodd y Sarsiant Medwyn Williams o Uned Trosedd Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym eisiau i bawb gael amser diogel a hwyliog y Nadolig hwn. Rhan bwysig iawn o noson allan yw sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel wedyn, a’r ffordd orau yw trefnu ymlaen llawn gydag aelod o’r teulu neu ffrindiau, neu archebu tacsi trwyddedig.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam ac yn cynnal gwiriadau. Nid ydym eisiau i bobl fynd i dacsis heb drwydded – sef pobl sy’n gwneud teithiau tacsis yn eu cerbydau eu hunain, heb drwydded, a all fod yn unrhyw un. Os ydych yn mynd i un o’r ceir hyn, gallwch roi eich diogelwch mewn risg oherwydd nid ydych yn gwybod pwy sy’n gyrru nac os yw’r cerbyd yn ddiogel.

“Pan fyddwch yn mynd i dacsi, archebwch trwy gwmni sydd ag enw da. Rhaid i dacsis trwyddedig arddangos platiau tacsi tu mewn a thu allan i’r cerbyd.

“Arhoswch yn ddiogel a mwynhewch y dathliadau.”

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn gweithredu tacsi heb drwydded, gallwch adrodd hyn i’r Adain Drwyddedu ar 01978 297441, trwy anfon e-bost at licensingservice@wrexham.gov.uk neu gallwch gysylltu â’r Heddlu ar 101. Gallwch fod yn ddienw os ydych yn dymuno.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’… Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…
Erthygl nesaf A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English