Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwnaeth mwy na 10.2 miliwn gyflwyno’u Ffurflenni Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwnaeth mwy na 10.2 miliwn gyflwyno’u Ffurflenni Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr
Arall

Gwnaeth mwy na 10.2 miliwn gyflwyno’u Ffurflenni Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2, 2022 5:44 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
HMRC
RHANNU

Erthyl Gwadd – CThEM

Gwnaeth mwy na 10.2 miliwn gyflwyno’u Ffurflenni Treth ar gyfer 2020/21 erbyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr, yn ôl Cyllid a Thollau EM (CThEM).

Gwnaeth bron i 630,000 o gwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflenni Treth ar y dyddiad cau a’r awr brysuraf ar gyfer cyflwyno oedd 16:00 i 16:59 pan wnaeth 52,475 lenwi eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Roedd 20,947 o gwsmeriaid wedi llenwi eu Ffurflen Dreth rhwng 23:00 a 23:59.

Roedd disgwyl i fwy na 12.2 miliwn o gwsmeriaid lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad eleni. Erbyn hyn, mae gan y 2.3 miliwn sy’n weddill hyd at 28 Chwefror i gyflwyno’u Ffurflen Dreth 2020/21 sy’n hwyr ac osgoi cosb am gyflwyno’n hwyr.

Ar gyfer unrhyw gwsmer Hunanasesiad sydd dal heb dalu ei fil treth neu drefnu cynllun talu, bydd llog yn cael ei godi ar bob balans sydd heb ei dalu o 1 Chwefror ymlaen. Mae gan gwsmeriaid tan 1 Ebrill i dalu eu treth yn llawn, neu drefnu trefniant amser i dalu, er mwyn osgoi cosb am dalu’n hwyr.

Dylai’r rhai nad ydynt eto’n gallu cyflwyno’u Ffurflen Dreth dalu swm amcangyfrifedig cyn gynted â phosibl, a bydd hynny’n lleihau unrhyw log. Gall pobl hunangyflogedig ddefnyddio’r gyfrifiannell ar GOV.UK i helpu i amcangyfrif ei fil treth.

Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Hoffwn ddiolch i’r miliynau o gwsmeriaid ac asiantau a wnaeth anfon eu Ffurflen Dreth atom a thalu mewn pryd erbyn y dyddiad cau yr wythnos hon.

“Rydym yn hepgor cosbau eleni, i roi mis ychwanegol i’r rhai a fethodd y dyddiad cau. A gall cwsmeriaid drefnu cynllun talu misol ar-lein os ydynt yn poeni am dalu eu bil treth. Chwiliwch am ‘Self Assessment’ ar GOV.UK i ddarganfod mwy.”

Mae’r gwasanaeth Amser i Dalu presennol yn caniatáu i gwsmeriaid, nad ydynt yn gallu talu eu bil yn llawn, ledaenu eu taliadau treth dros randaliadau misol mwy fforddiadwy. Gall cwsmeriaid Hunanasesiad sydd â dyled treth hyd at £30,000 wneud hyn ar-lein unwaith y byddant wedi cyflwyno’u Ffurflen Dreth.

Os oes ar gwsmeriaid fwy na £30,000, neu os oes angen rhagor o amser i dalu arnynt, dylent ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900.

Ceir rhestr lawn o’r dulliau talu y gall cwsmeriaid eu defnyddio i dalu eu bil treth Hunanasesiad ar GOV.UK.

Mae’r Ffurflen Dreth ar gyfer 2020/21 yn cwmpasu enillion a thaliadau yn ystod y pandemig. Bydd yn rhaid i drethdalwyr ddatgan yn eu Hunanasesiad a gawsant unrhyw grantiau neu daliadau drwy’r cynlluniau cymorth COVID-19 hyd at 5 Ebrill 2021, gan eu bod yn drethadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

• y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
• y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
• grantiau a thaliadau cymorth eraill yn sgil COVID-19, megis taliadau hunanynysu, grantiau gan awdurdodau lleol a’r rheini ar gyfer y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Ni ddylid rhoi gwybod ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad am y taliad untro, sef £500, ar gyfer aelwydydd sy’n gweithio ac sy’n cael credydau treth.

Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn gwirio ac yn gwneud unrhyw newidiadau i’w Ffurflen Dreth i sicrhau bod unrhyw daliadau SEISS neu daliadau cymorth eraill yn sgil COVID-19 wedi’u nodi’n gywir yn eu Hunanasesiad.

Mae CThEM yn annog pawb i fod yn ofalus os bydd rhywun yn cysylltu â nhw’n ddirybudd a gofyn am arian neu wybodaeth bersonol. Dylai trethdalwyr bob amser deipio’r cyfeiriad ar-lein yn llawn (www.gov.uk/cymraeg) ac yna edrych o dan y pennawd ‘Treth’, neu deipio www.gov.uk/hmrc, er mwyn dod o hyd i’r cysylltiad cywir ar gyfer cyflwyno’u Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim. Mae CThEM yn clywed am niferoedd uchel o dwyllwyr yn anfon e-byst, yn ffonio neu’n anfon negeseuon testun at bobl gan honni eu bod yn gweithio i’r adran. Os oes unrhyw amheuaeth, mae CThEM yn cynghori i beidio ag ymateb yn uniongyrchol i unrhyw beth amheus, ond i gysylltu â’r adran ar unwaith, ac i chwilio ar GOV.UK am ‘gwe-rwydo a sgamiau’.

Rhannu
Erthygl flaenorol Celebrating Forces Enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y Gwobrau Dathlu Teuluoedd y Lluoedd newydd sbon
Erthygl nesaf Wrexham Gateway Porth Wrecsam – Camau clir nesaf gyda phob partner allweddol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English