Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Porth Wrecsam – Camau clir nesaf gyda phob partner allweddol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Porth Wrecsam – Camau clir nesaf gyda phob partner allweddol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu
Y cyngor

Porth Wrecsam – Camau clir nesaf gyda phob partner allweddol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2022 9:32 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Gateway
Artists impression
RHANNU

Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022, bydd y Bwrdd Gweithredol yn cael adroddiad ar gynnydd y cynlluniau cyffrous ar gyfer Porth Wrecsam.

Bydd prosiect Porth Wrecsam, sydd werth miliynau, yn gweld adfywiad o goridor Ffordd yr Wyddgrug – gan greu cludiant bws a rheilffordd well, bydd y llwybr i mewn i ganol y dref yn creu argraff gyntaf gwych i ymwelwyr a lleoliad digwyddiadau gwell ar y cae pêl-droed a lleoliad rhanbarthol a chenedlaethol yn stadiwm y Cae Ras.

Mae’r partneriaid yn cynnwys ni ein hunain, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Gan fod nifer o gymhlethdodau i’r bartneriaeth a sensitifrwydd masnachol unigol, a diddordeb gan nad yw’r Cyngor yn rhan, mae’r adroddiad yn gyfrinachol. Ond rydym yn awyddus i rannu diweddariad i’r cyhoedd ar gynnydd y Prosiect.

Mae’r Uwchgynllun yn nodi cyfanswm o fuddsoddiadau sydd oddeutu £80-£90 miliwn gydag amcangyfrif o gymorthdaliadau’r sector cyhoeddus rhwng £40 a £45 miliwn.

Mae cyllid o £25 miliwn wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ochr ddwyreiniol o’r safle i ddatblygu’r safle o amgylch Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, gan gynnwys datblygiad masnachol a diweddariadau i’r mannau dinesig ac amwynder.

Gobeithir bellach y bydd ail gynnig i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraethau’r DU yn ddiweddarach eleni yn sicrhau cyllid ar gyfer yr ochr orllewinol – y Cae Ras – i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y clwb bêl-droed yn y dyfodol yn ogystal â sicrhau ei fod o safon i gynnal gemau rhyngwladol. Bydd y cyllid hefyd yn cynnwys cynigion i ddatblygu’r meysydd o amgylch y cae ar gyfer profiad digwyddiad gwell.

Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r camau nesaf ac yn sicrhau bod y cynnig yr ail rownd yn dangos yr adfywiad diwylliannol unigryw’r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd a chyflenwi’r prosiect.

Mae’r Cyngor a’r partneriaid wedi ymrwymo i ariannu gwariant buan ar elfennau allweddol o’r gwaith sydd yn galluogi i gyflawni’r cynnig. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rannu ar hyn pan maent yn cael eu datblygu a’u cymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor ar ran Partneriaid Porth Wrecsam “Bydd y penderfyniadau yn y Bwrdd Gweithredol yn caniatáu cynnydd y gwaith ar ochr orllewinol Porth Wrecsam a fydd yn gwella cyflenwad y prosiect i gynigion am gyllid.

“Mae’n wych gweld ymrwymiad gan yr holl bartneriaid yn arbennig Clwb Bêl-droed Wrecsam ar y camau nesaf ac ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddyfodol pêl-droed cystadleuol rhyngwladol.”

Dywedodd Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed  “Mae’r Gymdeithas wedi cyffroi i fod yn rhan swyddogol o’r prosiect a byddwn yn gweithio gyda’r partneriaid i sicrhau bod y cyfleusterau yn cael eu gwella i gyrraedd y safon, fel y gallwn yn rheolaidd ddod â phêl-droed rhyngwladol timau dynion, merched ac ieuenctid i’r Cae Ras.”

Dywedodd Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol ar ran Clwb Bêl-droed Wrecsam “Mae datganiad cenhadaeth y Clwb yn amlwg ein bod eisiau gwella’r Cae Ras i gyrraedd safon lle gallwn gynnal Gemau/ Digwyddiadau Rhyngwladol yn rheolaidd er budd Clwb Bêl-droed Wrecsam a chyhoedd Gogledd Cymru sydd yn mwynhau chwaraeon.

“Mae gan y bartneriaeth hon gyfle i droi’r uchelgais hwn yn realiti, a rydym wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn i gyflawni hyn.”

Dywedodd Sarah Atherton, AS “Rwyf yn falch iawn o gynnydd sydd yn digwydd ar Brosiect Porth Wrecsam, sydd yn hanfodol i Wrecsam a bydd hyn yn cael ei groesawu gan bawb ledled y dref.

“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau o amgylch y wlad gyda’r cyfle i newid a thyfu, a byddaf yn chwarae’r drwm yn San Steffan i wneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn cael y cyllid mae’n ei haeddu.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol HMRC Gwnaeth mwy na 10.2 miliwn gyflwyno’u Ffurflenni Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr
Erthygl nesaf Magi Ann Ysgol Llan-y-Pwll – Cyfle i ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 12 – 2

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English