Wrth i’r dyddiau fyrhau ac i drefn yr hydref ymsefydlu, gall deimlo fel bod amser cinio wedi’i wasgu rhwng cyfarfodydd, dyddiadau cau, a phopeth arall ar eich rhestr o bethau i’w gwneud. Dyna pam mae Cyngor Wrecsam yn ymuno â Cymru’n Ailgylchu i helpu i wneud amser cinio yn haws, yn fwy blasus ac yn wyrddach. Gyda rhywfaint o goginio doeth, gallwch fwynhau prydau cyflym a hyblyg sy’n arbed amser, yn lleihau gwastraff bwyd ac yn eich cadw’n llawn egni drwy’r dydd – i gyd wrth helpu Cymru ar ei thaith i fod y gorau yn y byd o ran ailgylchu.
Rydym eisoes yn ail yn y gynghrair ailgylchu fyd-eang, ychydig y tu ôl i Awstria – ond gwastraff bwyd yw lle gallwn gael yr effaith fwyaf. Ar gyfartaledd, mae chwarter pob bin sbwriel yng Nghymru yn cynnwys gwastraff bwyd, a gallai’r rhan fwyaf o hynny fod wedi cael ei fwyta. Mae hynny’n golygu gwastraffu bwyd, gwastraffu arian a gwastraffu egni.
Gydag ychydig o gynllunio craff, gallwch goginio unwaith a’i fwynhau mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos – gan arbed amser, bwyta’n iach, a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennych. A pheidiwch ag anghofio, mae’r darnau na allwch eu bwyta – fel y croen, coesynnau, esgyrn a phlisg wyau – yn mynd yn syth i’ch cadi bwyd, lle maen nhw’n cael eu defnyddio i greu gwrtaith pwerus ar gyfer gerddi, parciau a rhandiroedd Wrecsam!
Coginio unwaith, bwyta’n ddoeth drwy’r wythnos: Paratoi. Addasu. Ailgylchu!
Dyma dri rysáit syml, di-ffwdan sy’n berffaith i’w gwneud ymlaen llaw a’u haddasu i greu cinio cyflym a blasus:
Stiw Swynol – swmpus, syml a hyblyg
Yn iachus, yn gynhesol, ac yn llawn blas, mae hwn yn berffaith ar gyfer wythnosau prysur. Gwych i’w gael fel cinio maethlon cyflym neu swper cynnes ar ôl gwaith.
Dechreuwch gyda nionyn, garlleg, briwgig (cig, llysieuol, neu’n seiliedig ar gorbys), ffa, a thomatos tun neu passata. Yna ychwanegwch unrhyw beth arall sydd gennych yn yr oergell – moron, corbwmpen, madarch, tatws melys, sbigoglys, hyd yn oed llond llaw o bys neu india-corn. Ar ôl coginio, mae’n sylfaen y gallwch ei mwynhau drwy’r wythnos: rhowch mewn tortila gyda salad a salsa, neu ar daten bob gydag iogwrt a chaws, neu beth am gymysgu â phasta i gael cinio cyflym yn y swyddfa? Cofiwch: dylai crwyn nionod, pennau moron a choesynnau puprynnau fynd yn eich cadi bwyd, nid y bin.
Wyau Pob Di-ffwdan
Mae hwn yn berffaith ar gyfer cinio ar fynd. Chwisgiwch wyau gyda sblash o laeth, arllwyswch dros nionod wedi’u coginio’n ysgafn a pha bynnag lysiau neu brotein sydd wrth law, a phobwch nes ei fod yn euraidd. Mae selsig dros ben, llysiau rhost, sbigoglys, madarch neu buprynnau i gyd yn gweithio’n wych, gydag ychydig o gaws neu pesto i orffen. Torrwch yn sgwariau i’w roi mewn tortilas, pentyrrwch ar dost gydag afocado, neu mwynhewch yn oer fel byrbryd llawn protein rhwng cyfarfodydd. Gall unrhyw groen anfwytadwy a phlisg wyau fynd yn syth i’r cadi bwyd i’w troi’n wrtaith pwerus.
Ysgytlaeth Adferiad Nerthol
Os nad oes amser i baratoi, mae’r ysgytlaeth hwn, sy’n cymysgu mewn eiliadau, yn ffordd wych o ddefnyddio unrhyw ffrwythau dros ben neu or-aeddfed a’ch cadw’n llawn egni drwy gydol y dydd. Y cyfan sydd angen ei wneud yw blendio banana gydag iogwrt neu bowdr protein, llaeth, ac ychydig o iâ. Ychwanegwch aeron, menyn cnau, ceirch, hadau, neu sbigoglys i gynyddu’r iachusrwydd. Yfwch yn syth ar ôl sesiwn ymarfer corff amser cinio, rhowch mewn bowlen gyda ffrwythau a granola, neu cadwch yn yr oergell dros nos ar gyfer brecwast neu fyrbryd wrth y ddesg y diwrnod nesaf. Crwyn banana, creiddiau ffrwythau a hadau? Yn syth i’r cadi – lle byddant yn cael eu troi’n wrtaith defnyddiol i wella’r pridd.
Cymerwch yr Her Bwyd Doeth ac ennill gwobr flasus o Gymru
Ewch draw i Cymru’n Ailgylchu i gymryd yr Her Bwyd Doeth, gweld rhagor o ryseitiau da fydd yn arbed amser ac arian i chi, a chael cyfle i ennill gwobr flasus o Gymru.