Mae cerdyn teithio consesiwn – a elwir yn gerdyn bws – yn eich galluogi i deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau a rhai gwasanaethau trên yng Nghymru.
Gallwch wneud cais am un os ydych dros 60 oed, neu’n unigolyn anabl cymwys, ac os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Sut ydych chi’n gwneud cais? Byddwch yn falch o wybod ei bod yn weddol hawdd – dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Gwneud cais
Gellir gwneud cais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru (TfW).
I wneud cais ar-lein bydd yn rhaid i gwsmeriaid gael un math o brawf adnabod o’r rhestr ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dau brawf o’u cyfeiriad, a bydd arnynt angen gwybod eu Rhif Yswiriant Gwladol (nid oes angen prawf o Yswiriant Gwladol).
Os ydych yn gwneud cais am gerdyn teithio Unigolyn Anabl, bydd arnoch angen dangos tystiolaeth o’ch anabledd hefyd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn unrhyw dystiolaeth gefnogol angenrheidiol ar wefan TfW.
Pan fydd eich cais wedi dechrau, gallwch weld y manylion ar-lein ac uwchlwytho dogfennau ychwanegol os gofynnir i chi wneud hynny.
Os bydd arnoch angen cefnogaeth i wneud eich cais ar-lein, gallwch fynd draw i Galw Wrecsam (yn Llyfrgell Wrecsam). Rhowch wybod i’n hymgynghorwyr a byddant yn gallu eich helpu. Mae copïau papur ar gael os oes angen, ond bydd eich cais yn gynt os gallwn eich helpu i’w wneud ar-lein.
Adnewyddu cerdyn neu gerdyn sydd ar goll
Gallwch newid manylion eich cerdyn neu roi gwybod bod eich cerdyn ar goll/wedi ei ddwyn drwy glicio ar y botwm Rheoli fy ngherdyn neu gais ar wefan TfW.
Os ydych wedi cael llythyr yn dweud y bydd eich cerdyn yn dod i ben, neu wedi dod i ben, gallwch fewngofnodi i’r cyfrif i ofyn am un newydd. Mae dyddiad terfyn eich cerdyn ar ei du blaen. Gall y staff dynnu eich llun drosoch chi, felly nid yw’r gofyniad i ddarparu llun pasbort yn angenrheidiol. Ni allwch wneud cais am adnewyddu cyn chwe wythnos o ddyddiad terfyn eich cerdyn.
“Cymerwch fantais lawn o deithio am ddim”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae gan fysiau lawer o fanteision amgylcheddol ac mae teithio’n gynaliadwy yn cefnogi iechyd a lled hefyd. Mae bysiau’n lleihau tagfeydd, yn helpu i ddileu unrhyw straen wrth yrru, ac maen nhw’n rhan fawr o’n cymunedau lleol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais am gerdyn i gymryd mantais lawn o’r teithio am ddim.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.