Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwneud cais am gerdyn bws – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwneud cais am gerdyn bws – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Y cyngorPobl a lle

Gwneud cais am gerdyn bws – yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 21, 2024 8:50 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Applying for a bus pass
RHANNU

Mae cerdyn teithio consesiwn – a elwir yn gerdyn bws – yn eich galluogi i deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau a rhai gwasanaethau trên yng Nghymru.

Cynnwys
  • Gwneud cais
  • Adnewyddu cerdyn neu gerdyn sydd ar goll
  • “Cymerwch fantais lawn o deithio am ddim”

Gallwch wneud cais am un os ydych dros 60 oed, neu’n unigolyn anabl cymwys, ac os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Sut ydych chi’n gwneud cais?  Byddwch yn falch o wybod ei bod yn weddol hawdd – dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

Gwneud cais

Gellir gwneud cais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru (TfW).

I wneud cais ar-lein bydd yn rhaid i gwsmeriaid gael un math o brawf adnabod o’r rhestr ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dau brawf o’u cyfeiriad, a bydd arnynt angen gwybod eu Rhif Yswiriant Gwladol (nid oes angen prawf o Yswiriant Gwladol).

Os ydych yn gwneud cais am gerdyn teithio Unigolyn Anabl, bydd arnoch angen dangos tystiolaeth o’ch anabledd hefyd.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn unrhyw dystiolaeth gefnogol angenrheidiol ar wefan TfW.

Pan fydd eich cais wedi dechrau, gallwch weld y manylion ar-lein ac uwchlwytho dogfennau ychwanegol os gofynnir i chi wneud hynny.

Os bydd arnoch angen cefnogaeth i wneud eich cais ar-lein, gallwch fynd draw i Galw Wrecsam (yn Llyfrgell Wrecsam). Rhowch wybod i’n hymgynghorwyr a byddant yn gallu eich helpu. Mae copïau papur ar gael os oes angen, ond bydd eich cais yn gynt os gallwn eich helpu i’w wneud ar-lein.

Adnewyddu cerdyn neu gerdyn sydd ar goll

Gallwch newid manylion eich cerdyn neu roi gwybod bod eich cerdyn ar goll/wedi ei ddwyn drwy glicio ar y botwm Rheoli fy ngherdyn neu gais ar wefan TfW.

Os ydych wedi cael llythyr yn dweud y bydd eich cerdyn yn dod i ben, neu wedi dod i ben, gallwch fewngofnodi i’r cyfrif i ofyn am un newydd. Mae dyddiad terfyn eich cerdyn ar ei du blaen. Gall y staff dynnu eich llun drosoch chi, felly nid yw’r gofyniad i ddarparu llun pasbort yn angenrheidiol. Ni allwch wneud cais am adnewyddu cyn chwe wythnos o ddyddiad terfyn eich cerdyn.

“Cymerwch fantais lawn o deithio am ddim”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae gan fysiau lawer o fanteision amgylcheddol ac mae teithio’n gynaliadwy yn cefnogi iechyd a lled hefyd. Mae bysiau’n lleihau tagfeydd, yn helpu i ddileu unrhyw straen wrth yrru, ac maen nhw’n rhan fawr o’n cymunedau lleol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais am gerdyn i gymryd mantais lawn o’r teithio am ddim.”

Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol coun Datganiad gan Brif Weithredwr Ian Bancroft ac Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam
Erthygl nesaf White Ribbon Cynnal digwyddiad y Rhuban Gwyn yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English