Rydym ni’n cefnogi Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch Llywodraeth y DU i rybuddio plant a phobl ifanc am beryglon magnetau ac, yn bwysicach fyth, i’w diogelu.
Mae magnetau yn bethau cyffredin iawn yn ein cartrefi ac i’w cael mewn eitemau fel teganau a dyfeisiau trydanol a hyd yn oed ar ein hoergelloedd. Ond cofiwch gadw’r rhain yn ddigon pell o afael plant. Peidiwch â gadael i blant chwarae gyda theganau diffygiol oherwydd fe all magnetau ddod yn rhydd ac fe all blant eu llyncu’n hawdd. Fe ddylech chi naill ai drwsio neu waredu’r eitem yn ddiogel.
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi prynu eitem sy’n anniogel, rhowch wybod i’ch email Tîm Safonau Masnach lleol
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Siaradwch efo’ch plant am beryglon magnetau
Mae defnyddio cynnyrch magnetig fel tlysau ffug yn y trwyn, y geg a’r tafod, yn cynyddu’r perygl o anadlu neu lyncu magnetau.
Fe ddylech chi siarad efo’ch plant am fagnetau ac egluro pam bod magnetau pŵer uchel yn beryglus a pham na ddylid eu defnyddio fel tlysau ffug ar y corff neu fel eitemau addurniadol ar lestri gwydr.
Os ydych chi’n credu bod eich plentyn wedi llyncu magnet
Ewch yn syth i’r adran ddamweiniau ac achosion brys neu ffoniwch 999 am ambiwlans.
Dydi’r symptomau ddim o hyd yn amlwg. Dyma restr o symptomau posibl:
- Poen yn y bol
- Chwydu
- Gwres
- Plentyn yn pwyntio at y gwddf neu’r stumog
- Mae symptomau aneglur neu symptomau sy’n mynd a dod yn golygu bod yn rhaid i chi fod yn wyliadwrus
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym ni wedi gweld cryn dipyn o achosion yn ystod y misoedd diwethaf lle mae plant wedi llyncu magnetau ac wedi bod yn ddifrifol wael. Cadwch fagnetau yn ddigon pell o afael plant bach a gwnewch yn siŵr bod plant hŷn yn ymwybodol o beryglon magnetau i’w hiechyd.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL