Wedi’i leoli mewn tipi mawr ar Sgwâr y Frenhines, mae mynediad am ddim i’r Hwb Cymraeg tan 6pm trwy gydol yr ŵyl.
Mae’r Hwb Cymraeg yn Focus Wales eleni yn cynnig cyfle gwych i fwynhau diwylliant, iaith a threftadaeth y Gymraeg dros y penwythnos. Felly dewch i ymdrochi yn yr awyrgylch, defnyddiwch eich Cymraeg a mwynhewch rai perfformiadau gwych!
Yn ogystal ag amserlen brysur o ddigwyddiadau, bydd bar llawn a diodydd poeth ar gael drwy gydol yr Ŵyl y tu mewn i dipi’r Hwb Cymraeg – gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i gwrdd â ffrindiau, a gwneud cysylltiadau newydd dros gyfnod gŵyl Focus Wales.
Mae digwyddiadau yn ystod y dydd yn cynnwys:
Dydd Iau 12-2pm Paned a sgwrs dan arweiniad Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain – croeso cynnes i bawb. Dewch i ddefnyddio eich Cymraeg ac ymarfer siarad
Dydd Gwener 9/5/25 11-12.30pm
Cwis Bach – cyfle i ymarfer ar gyfer y Cwis mawr a gynhelir ym mis Gorffennaf yn y Saith Seren
Sadwrn 10-12pm – HWYL I’R TEULU cyfan yn Gymraeg
Urdd – gemau buarth
Mudiad Meithrin – sesiwn chwarae
Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain Cymru – sesiwn grefft i’r teulu
Bydd presenoldeb gan Bwyllgor yr Eisteddfod yn yr Hwb drwy gydol y penwythnos felly dewch i gael sgwrs am yr Eisteddfod. Gallwch chi hefyd brynu tocynnau raffl sy’n mynd tuag at godi arian ar gyfer Eisteddfod Wrecsam.
Dywedodd Stephen Jones, Swyddog y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Diolch i’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r digwyddiad gan gynnwys: Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Mudiad Meithrin, Coleg Cambria, Focus Wales, Theatr Clwyd, Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain a’r Urdd. “Bydd rhai o’r artistiaid sy’n perfformio hefyd yn Eisteddfod Wrecsam ym mis Awst, felly mae hon yn ffordd wych o’u gweld nhw’n fyw ymlaen llaw mewn lleoliad agos, yng nghanol Wrecsam.”
Mae amserlen perfformwyr ar gael ar wefan Focus Wales.