Os ydych yn trefnu cinio arbennig gyda’r teulu ar Sul y Mamau, mae Tîm Bwyd a Ffermio Cyngor Wrecsam yn dymuno eich atgoffa i ‘edrych cyn archebu’.
Mae Sul y Mamau yn amser i fwynhau a dathlu ar gyfer yr holl famau yn ein bywydau heb boeni am wenwyn bwyd. Ond y gwir amdani yw nad ydych yn gwybod am safonau hylendid bwyty yn ôl pa mor lân a thaclus mae’r staff yn edrych neu pa mor brysur ydy’r bwyty.
Y pethau nad ydych yn gallu eu gweld – fel germau yn lledaenu oherwydd arferion hylendid gwael – ydych angen eu hystyried.
Mae yna un ffordd hawdd i dawelu eich meddwl – gwiriwch y sgôr hylendid bwyd.
Mae’r sgôr hylendid bwyd yn dweud wrthych am y safonau hylendid mewn bwytai a busnesau bwyd eraill. Mae’n hawdd iawn gwirio.
Ewch ar lein a gwirio gwefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu os ydych allan gallwch wirio’r sticer gwyrdd a du.
Mae’r sgorau yn cael eu penderfynu gan ein swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ac yn rhedeg o 0-5, gyda sgôr 5 yn golygu lefel dda iawn o hylendid bwyd.
Mae’n ofynnol i fusnesau bwyd yng Nghymru yn ôl y gyfraith i arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd yn dilyn archwiliad.
Mae 98% o fusnesau bwyd wedi derbyn sgôr 3 neu well, felly mae yna ddigon o lefydd gyda safonau da a gallwch yn hawdd osgoi mynd â’ch teulu i’r llefydd hefo sgôr isel. Bydd gweld y sticer gwyrdd a du yn y ffenestr a gwirio ar lein ar gyfer sgôr yn eich helpu i wneud dewis gwell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i ratings.food.gov.uk
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN