Rydym wedi cael gwobr fawreddog iawn gan Gymdeithas Ddinesig Ardal Wrecsam am Fynwent Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, un o’r enghreifftiau mwyaf hardd o fynwent Fictoraidd yng Nghymru.
Dyfarnwyd Gwobr Ruth Howard i’r prosiect, sef Gwobr fwyaf mawreddog y Gymdeithas, ac ni chaiff ei dyfarnu bob blwyddyn. Caiff ei rhoi am gyfraniadau arbennig i amgylchedd Wrecsam, sy’n cynnwys pensaernïaeth, cadwraeth a thirwedd.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Roedd Mynwent Wrecsam yn llwyddiannus wrth sicrhau Grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri o £1.2 Miliwn i gefnogi’r gwerth £1.5 Miliwn o waith sy’n ymwneud ag adnewyddu rhan Fictoraidd Mynwent Wrecsam.
Mae’r gwaith cadwraeth wedi cynnwys adnewyddu’r ddau gapel a’r porthdy, ffensys rhestredig, gatiau a nodweddion mynedfa ac adnewyddu’r rhwydwaith llwybrau troed. Gwnaed ychydig bach o waith adfer i gofebau hefyd ar gyfer y cofebion sylweddol sy’n ffurfio rhan o lwybr newydd o amgylch rhan hanesyddol y fynwent.
Mae paneli dehongli yn egluro am hanes y fynwent wedi’u creu a gellir eu gweld yng Nghapel y Gorllewin. Mae Capel y Dwyrain nawr yn gartref i Swyddfa’r Fynwent a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ymchwil hanesyddol i’r fynwent.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol, yr Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’n cydnabod y gwaith caled mae staff y Cyngor, Harrison Design Development, fel ymgynghorwyr arweiniol, a Grosvenor Construction wedi’i roi i’r gwaith adnewyddu i adfer y fynwent a darparu cyfleuster da ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am sicrhau bod y gwaith hwn yn bosibl drwy eu cymorth grant a’u cefnogaeth.”
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.