Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal
Busnes ac addysgPobl a lle

Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/01 at 11:44 AM
Rhannu
Darllen 9 funud
Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal
RHANNU

 NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)

Cynnwys
Penderfyniadau AnoddGofal Cymdeithasol i BlantGofal Cymdeithasol i Oedolion“Wnewch chi ddim gwrando”

Oes rhywun annwyl i chi mewn gofal? Neu efallai eich bod yn ofalwr eich hun?

Neu efallai eich bod yn ofalwr maeth?

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Os felly, byddai’n werth i chi dreulio dwy funud yn darllen y blog isod.

Penderfyniadau Anodd

Fel y soniwyd eisoes, rhaid i Gyngor Wrecsam arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf.

Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni edrych ar wneud arbedion effeithlonrwydd yn rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig – neu ddod a rhai gwasanaethau i ben yn llwyr.

Mae Penderfyniadau Anodd yn ymwneud ag edrych ar y materion hyn.

Gofal Cymdeithasol i Blant

Dyma ychydig o’r pethau rydym yn ystyried eu newid o safbwynt Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae’r rhain yn cynnwys:-

  • Lleoliadau ar gyfer Plant Sy’n Derbyn Gofal

Gall fod yn anodd dod o hyd i leoliadau gofal maeth ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth, neu unrhyw blant y mae’n rhaid eu maethu gyda grwpiau o frodyr/chwiorydd.

Mae un o’r cynigion rydym yn ei ystyried o dan Penderfyniadau Anodd yn awgrymu ein bod yn cynyddu’r ffioedd rydym yn ei dalu i ofalwyr maeth sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor, gan leihau faint rydym yn ei wario ar leoliadau annibynnol. Gallai’r cynnig hwn hefyd ychwanegu at gapasiti’r gwasanaeth drwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael i blant yn Wrecsam.

  • Grantiau Cynaliadwyedd Gofal Plant

Mewn rhai achosion, mae’r Cyngor yn talu Grantiau Cynaliadwyedd Gofal Plant i ddarparwyr gofal plant preifat er mwyn eu helpu i gadw’u busnesau yn gynaliadwy. Un o’r cynigion o dan Penderfyniadau Anodd yw ein bod yn dwyn y taliadau grant hyn i ben.

  • Hyfforddiant Gofal Plant a Ariennir gan y Cyngor

Fel awdurdod lleol rydym yn darparu cyllid er mwyn hyfforddi darparwyr gofal plant preifat – mae hyn yn cynnwys pethau fel Cymorth Cyntaf, hylendid bwyd a diogelu.

Cynigir ein bod yn dwyn y cyllid hwn i ben, fyddai’n golygu y byddai’n rhaid i ddarparwyr sector preifat ddod o hyd i gyllid o ffynonellau eraill.

Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn faes eang iawn, ac rydym am ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, fforddiadwy sy’n diwallu anghenion oedolion diamddiffyn, gan rhoi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Y cynigion ar gyfer y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol I Oedolion yw:

  • Cyfleoedd Dydd a Gwaith

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad o ran cyfleoedd gwaith a gynigir i oedolion sydd ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau ac anghenion iechyd meddwl.

Rydym am wybod a ddylai’r tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion barhau i redeg y prosiectau hyn, ac os oes modd i ni edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli.

Byddwn hefyd yn adolygu gwasanaethau dydd Prosiect Gardd Furiog Erlas a Chanolfan Ddydd Cunliffe, a byddwn hefyd yn ystyried adleoli staff sydd o fewn ein safle Greenacres.

  • Taliadau Uniongyrchol

Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhoi i bobl sy’n gymwys i dderbyn gofal neu gymorth ddewis eu cyllidebau eu hunain, gyda neu heb help – ac mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt dros pryd a sut maent yn derbyn gofal, a phwy sy’n ei ddarparu.

Rydym yn edrych ar ffyrdd o hwyluso rheolaeth o Daliadau Uniongyrchol ac rydym yn adolygu’r gwasanaethau cefnogi sydd gennym ar waith.

  • Gwasanaethau Seibiant

Mae gwasanaethau seibiant yn rhoi seibiant i ofalwyr o’u rôl, ac rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn drwy gwmnïau sy’n gallu darparu gwasanaethau gofal yn y cartref. Ein cynnig yw ein bod yn peidio defnyddio darparwyr gofal cartref ac yn comisiynu gwasanaeth newydd, yn cynnig darpariaeth hyblyg sydd a chost mwy cynaliadwy.

Rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau grant i adeiladu estyniad  i adeilad Park View, ein cyfleuster seibiant arbenigol ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gynyddu’r lefel o wasanaethau seibiant arbenigol sydd ar gael, a gallai hefyd fod o gymorth i gynhyrchu incwm gan y byddai’r gwasanaeth ar gael i’r Bwrdd Iechyd ac Awdurdodau Lleol eraill.

  • Adolygu Gwasanaethau Gofal a Chefnogi

Byddwn hefyd yn edrych ar yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu i bobl o ran gofal a chefnogaeth, ac edrych am ddulliau amgen o wneud yn siŵr fod eu hanghenion yn cael eu diwallu, a sicrhau nad yw gwasanaethau yn cael eu gor-ddarparu.

Bydd rhan o hyn yn cynnwys adolygu Cymorth Gwaith Prosiect, gwasanaeth un i un sy’n galluogi pobl i reoli eu bywydau ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth hwn yn cael ei brynu gan ddarparwyr gofal cartref – cynigir adolygu Cymorth Gwaith Prosiect a ffyrdd llai costus o ddarparu gwasanaethau, fel Taliadau Uniongyrchol a Rhannu Bywydau.

  • Byw â Chymorth

Rydym yn cynnig adolygu Byw  Chymorth – sy’n cynnig cymorth a llety i bobl sydd â lefelau uchel o anghenion – er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

Mae Byw  Chymorth yn galluogi pobl sydd â’u tenantiaethau eu hunain ac sy’n byw gyda chymorth yn eu cartrefi eu hunain, yn aml wedi eu cefnogi gan dîm o bobl sy’n darparu cymorth i’r unigolyn a’u cyd-denantiaid. Mae hyn yn cynnwys aelodau o staff sy’n cysgu mewn dros nos.

Rydym yn cynnig adolygu’r gwasanaeth hwn – bydd pob tŷ yn cael ei adolygu ar wahân, a byddwn yn gwneud y mwyaf o’r defnydd o deleofal a chymorth symudol ble bo’n addas.

  • Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir

Cynigir ein bod yn parhau â’r gwaith sydd eisoes ar waith i gefnogi unigolion, sydd wedi’u lleoli mewn cartrefi gofal neu wasanaethau y tu allan i’r sir, i ddychwelyd i Wrecsam a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r gwasanaeth Byw â Chymorth fel dewis arall i leoliadau lle bo hynny’n briodol.

Byddai hyn yn cynnwys adolygu’r defnydd a wneir o’r Gwasanaeth Adfer – ein gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol – a’r posibilrwydd o’i estyn gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd.

“Wnewch chi ddim gwrando”

Efallai eich bod yn meddwl nad yw cynghorau yn gwrando ar ganlyniadau ymgynghoriadau o’r fath – ond fe wnewn  ni.

Mae canlyniadau rowndiau blaenorol o Penderfyniadau Anodd wedi ein arwain o ran sut rydym wedi edrych ar ein cyllideb mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae llawer o bobl yn meddwl na ddylent ymdrechu i ddweud unrhyw beth gan na fyddwn ni “ yn gwrando”

Ond os na wnewch chi ddweud unrhyw beth, allwn ni ddim gwrando o gwbl – yn syml, does dim gennym i’w wrando arno.

Ac os na fyddwch yn dweud unrhyw beth, byddwch yn ei adael i bobl eraill ymateb i’r ymgynghoriad ac arwain sut byddwn yn edrych ar y gyllideb dros y ddwy flynedd nesaf.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lleisio eich barn – peidiwch methu’r cyfle i ddweud eich dweud.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr Fawreddog i Brosiect Mynwent Gwobr Fawreddog i Brosiect Mynwent
Erthygl nesaf Fedrwch chi ddyfalu pa adeilad newydd yn Wrecsam gyrhaeddodd y brig yn y gwobrau diweddar? Fedrwch chi ddyfalu pa adeilad newydd yn Wrecsam gyrhaeddodd y brig yn y gwobrau diweddar?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg

Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English