Mae ddatguddiwr lleol wedi derbyn gwobr am ddarganfod un o’r gwrthrychau Rhufeinig mwyaf arwyddocaol a ddarganfuwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Derbyniodd Rob Jones o Goedpoeth y wobr ‘Canfyddiad Mwyaf Sylweddol yng Nghymru’ gan y gylchgrawn Searcher am ddarganfod ingot plwm Rhufeinig ger Yr Orsedd.
Darganfyddiad werthfawr
Mae ingot yn cael ei ffurfio pan fydd metel tawdd, yn yr achos hwn, plwm, yn cael ei daflu i siâp yn barod i’w brosesu ymhellach.
Dim ond hanner metr o hyd yw ingot plwm Yr Orsedd ond mae’n pwyso 63 cilogram!
Mae llai na chant o ingotau plwm o’r math hwn yn hysbys o fwyngloddiau Prydain Rufeinig.
Mae’r darganfyddiad prin hwn hefyd yn arwyddocaol i archeolegwyr a haneswyr, oherwydd ei ddyddiad cynnar posibl, lleoliad y gwrthrych, ac oherwydd yr arysgrif unigryw.
Mae’r arysgrif ar yn ingot yn crybwyll Marcus Trebellius Maximus, a oedd yn lywodraethwr ar dalaith Britannia, o dan yr Ymerawdwr Nero o AD 63-69. Ni ddarganfuwyd unrhyw arysgrifau eraill gyda’i enw erioed yn y DU, a dyna pam mae wedi denu cymaint o gyffro yn genedlaethol
Rhoddodd Mr Jones, o Goedpoeth, Wrecsam, wybod i’r Swyddog Darganfyddiadau Lleol (GDd Cymru) ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru yn Amgueddfa Wrecsam. Bu archeolegwyr o’r Amgueddfa a’r Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn asesu’r hyn a ddarganfuwyd. Roedd hyn yn caniatau yr archeolegwyr i gofnodi’r lleoliad fel y gall mwy o wybodaeth gael ei ddarganfod am y gwrthrych.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
‘Rhyfeddais pa mor gyflym y lledaenodd y newyddion’
Dywedodd Rob Jones: “Rwyf wedi bod yn datguddio metel er 1996 yn ardal Wrecsam ac o’i chwmpas. Mae gen i lawer o eitemau wedi’u recordio gyda PAS Cymru, wedi’u lleoli yn Amgueddfa Wrecsam gan gynnwys eitemau o’r oes haearn, Rhufeinig a chanoloesol sydd i gyd yn ychwanegu at hanes Wrecsam.
“Rhyfeddais pa mor gyflym y lledaenodd y newyddion am fy narganfyddiad ledled y byd. Cefais negeseuon o America, Rwsia, Norwy i enwi ond ychydig ac rwyf wedi cael sylw mewn ychydig o gylchgronau gan gynnwys cylchgrawn Treasure Hunting a chylchgrawn Searcher ac rwy’n falch iawn o clywed fy mod wedi ennill gwobr Darganfyddiad Mwyaf Sylweddol yng Nghymru cylchgrawn Searcher.
“Rydw i mor hapus iddo gael ei gaffael gan Amgueddfa Wrecsam fel bod pawb yn gallu ei weld.
Trwy ddod o hyd i’r ingot hwn, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gydag archeolegwyr o Wrecsam a Chaer ac yn edrych i ysgrifennu pennod newydd am y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru ac i ddatgelu mwy o hanes Rhufeinig Wrecsam
‘Gwobr ‘haeddiannol iawn’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, a chynghorydd lleol Yr Orsedd: “Mae mochyn plwm Yr Orsedd yn arwyddocaol iawn yn hanes cynnar ein hardal. Hoffwn longyfarch Rob am ennill y wobr am y darganfyddiad hynod ddiddorol hwn sy’n procio’r meddwl. Mae’n haeddiannol iawn am yr ymroddiad y mae wedi’i ddangos.
“Mae ymchwil yn parhau i’r darganfyddiad gyda’r Amgueddfa a Phrifysgol Caer yn rhedeg prosiect ar y cyd o’r enw ‘In the Footsteps of Trebellius Maximus’ sy’n edrych ar safle’r ingot yn ogystal â’r Fila Rhufeinig newydd a ddarganfuwyd yn ddiweddar gerllaw.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG