Mae aelodau un grŵp lleol yn wên o glust i glust ar ôl iddynt ennill gwobr ffilm gyffrous a mawreddog, sef Gwobr Iris.
Mae Safonau Gwasanaethau Wrecsam (SWS) yn grŵp o unigolion sydd wedi cael diagnosis o anabledd ac sy’n cael cymorth gan Gofal Cymdeithasol i Oedolion Wrecsam. Bu iddynt ennill gwobr y Ffilm Fer Gymunedol Orau am “We Leave Our Labels at the Door” mewn seremoni ddiweddar yn Llandudno.
Sefydlwyd Gwobr Iris yn 2007 gan The Festivals Company, fel gwobr ffilm ryngwladol pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT), ac fe’i dyfernir i unrhyw ffilm sydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd LGBT. Mae’r gystadleuaeth ar agor i wneuthurwyr ffilmiau ledled y byd, a chaiff ei beirniadu gan banel o artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol.
Derbyniodd grŵp SWS y wobr am y Ffilm Fer Gymunedol Orau. Mae’r Gwobrau’n dathlu cyflawniadau sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymunedol, sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gweithio gydag Iris i greu ffilm fer yn archwilio materion LGBT+.
Meddai Nicole Mitchell-Meredith, Cydlynydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, sy’n gweithio gyda grŵp Safonau Gwasanaethau Wrecsam (SWS): “Rydym ni yn SWS wedi gwirioni’n lân ein bod wedi ennill y wobr hon! Roedden nhw eisiau helpu pobl anabl i fynegi eu rhywioldeb mewn modd diogel a gwybodus.
“Gobeithio y bydd y ffilm hon yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at gyflawni hyn. Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn ac mae derbyn cydnabyddiaeth mor fawreddog yn galonogol iawn i’r rheiny sydd wedi cymryd rhan, ac i’r gymuned LGBT ehangach yn Wrecsam. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith, ac i annog SWS ac Iris i barhau gyda’u gwaith ardderchog.”
Cafodd y grŵp gyfarfod Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams, yn ddiweddar, a estynnodd ei longyfarchiadau iddynt ar eu cyflawniad.
Gallwch ddarllen mwy am wobrau Iris yma:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR