Mae sêr disglair cymuned chwaraeon Wrecsam wedi cael y cyfle i ddisgleirio yn y seremoni wobrwyo gan dynnu sylw at y rhai sydd wedi gweithio’n ddiflino i roi hwb i chwaraeon cymunedol yn Wrecsam.
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2018, wedi’u cefnogi gan Wrecsam Egnïol, yng Nghanolfan Chwaraeon a Chymunedol Brymbo.
Gyda mwy na 100 o enwebiadau, roedd yn benderfyniad anodd i aelodau’r panel annibynnol i benderfynu’r gorau ym mhob categori, gan gynnwys rhai o sêr chwaraeon gorau Wrecsam.
Enillwyr llwyddiannus
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Yr enillwyr ymhob categori oedd:
- Lowri Davies – Seren Chwaraeon y Flwyddyn (Noddwyd gan Freedom Leisure)
- Pêl-rwyd Rhosnesni – Sefydliad y Flwyddyn (Noddwyd gan Ganolfan Tennis Wrecsam)
- Gary Price – Gwobrau NERS mewn Iechyd (Noddwyd gan Gynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff)
- Stephen Parker – Hyfforddwr y Flwyddyn (Noddwyd gan Charisma Trophies)
- Elliot Odunaiya – Seren Chwaraeon Iau y Flwyddyn (Noddwyd gan y Cynghorydd I. David Bithell MBE)
- Mark Andrew Jones – Gwirfoddolwr y Flwyddyn (Noddwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam)
- Megan Weetman – Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn (Noddwyd gan Arriva Trains Wales)
- Phil Jones – Gwasanaethau i Chwaraeon (Cyflwynwyd gan y Gwobr Arnold Griffiths)
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Roeddwn i’n falch iawn o gael mynychu’r Gwobrau Chwaraeon. Roedd yn bleser cael y cyfle i gyfarfod yr enillwyr a’r enwebeion, yn fuddugol neu beidio, maent i gyd yn haeddu ein clod am eu gwaith caled yn y byd chwaraeon yn Wrecsam.
“Mae pawb sy’n cymryd rhan yn dueddol o fod yn wirfoddolwyr, sy’n rhoi’r gwaith i mewn oherwydd cariad ac ymrwymiad at chwaraeon, a diolch iddyn nhw mae gan Wrecsam rwydwaith o glybiau, timau a sefydliadau chwaraeon cymunedol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Atkinson: “Hoffwn longyfarch tîm Wrecsam Egnïol am y digwyddiad gwych sydd wedi’i drefnu’n dda. Aeth popeth yn ddi-fai ac roedd y tîm mor broffesiynol – roedd y cyfan yn wych.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU