Os ydych chi’n berchennog ci – ac fe wyddom ni fod yna lawer ohonoch chi – fe ddylech chi fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyd a lled Wrecsam pan fyddwch chi allan gyda’ch ci.
Maent yn eu lle i’ch gwarchod chi a’ch ci ac aelodau o’r cyhoedd sydd ddim yn berchnogion cŵn.
Os fyddwch chi’n cymryd eich ci i un o’n parciau gwledig, fe gânt redeg yn rhydd, ond fe ddylent fod ar dennyn pan fyddant yn y meysydd parcio neu’r Canolfannau Ymwelwyr. Mae hyn yn gwneud synnwyr ac yn eich gwarchod chi a’ch ci rhag niwed.
Fodd bynnag, os bydd eich ci yn achosi niwsans neu ofid i bobl eraill pan fydd yn rhedeg yn rhydd, mae’n rhaid i chi ei roi yn ôl ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig, sef Swyddog Gorfodi neu Warden Parc yn gofyn i chi wneud hynny.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Rhaid i’ch ci fod ar dennyn drwy’r amser pan fyddwch chi ar lwybrau troed a phriffyrdd.
Ni chaniateir cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwarae sydd wedi’u marcio ac ardaloedd i blant chwarae, parciau sgrialu, cyrtiau tennis ac ardaloedd chwarae aml-ddefnydd.
“Dirwy o £100 os na fyddwch chi’n pigo’r baw”
Nid ydym eisiau i chi gael dirwy am beidio â phigo baw eich ci i fyny, felly dylech sicrhau eich bod yn cymryd bag gyda chi pan fyddwch chi allan gyda’ch ci. Mae hi’n drosedd i beidio â phigo’r baw i fyny, ac mae rhai perchnogion cŵn anghyfrifol wedi cael eu dal ac wedi cael dirwy.
Mae’r cyfyngiadau hyn yn rhan o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a ddaeth i rym yn gynharach eleni yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddangos cefnogaeth gref am reolaeth cŵn mewn rhannau penodol o’n parciau a chanolfannau ymwelwyr. Maent yn weithredol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ac mae arwyddion amlwg ar eu cyfer yn ein parciau a’n mannau cyhoeddus.
“mwy o berchnogion yn pigo baw eu cŵn”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r mesurau newydd wedi bod mewn grym ers mis Mawrth ac ar y cyfan maent wedi cael eu croesawu gan berchnogion cŵn a phobl sydd ddim yn berchen ar gŵn. Rydym wedi cadw pethau’n syml, ac ni ddylai fod yna unrhyw ddryswch ynghylch lle mae’r cŵn yn cael mynd a pheidio mynd, a dwi’n meddwl eu bod yn caniatáu i’r cŵn gael rhedeg o gwmpas yn gywir ac yn gyfrifol. Mae pigo baw cŵn i fyny yn un o’n prif faterion ac mae’n falch gen i ddweud ers i ni ddechrau rhoi dirwyon am y drosedd benodol hon, mae swyddogion yn dweud bod mwy o berchnogion yn pigo baw eu cŵn i fyny.”
Os nad dydych chi’n glynu at y mesurau sydd ar waith, fe allech chi gael dirwy felly sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â nhw pan fyddwch chi allan gyda’ch anifail anwes.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI