A oes gennych chi ffrindiau neu deulu’n byw dramor sy’n ddinasyddion Prydain?
Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod iddynt eu bod bellach yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, hyd yn oed os ydynt wedi byw y tu allan i’r DU ers dros 15 mlynedd!
Bydd yn rhaid iddynt fod wedi byw, neu gofrestru i bleidleisio, yn y DU ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Maent bellach yn gallu cofrestru i bleidleisio ar-lein ac mae eu datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, tan 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym.
Mae hyn yn berthnasol i etholiadau cyffredinol Senedd y DU, isetholiadau a deisebau adalw. Nid ydynt yn berthnasol i etholiadau lleol neu Senedd Cymru.
Beth sydd wedi newid?
Yn 2022, pasiodd Senedd y DU’r Ddeddf Etholiadau, sydd wedi gwneud sawl newid i system etholiadol y DU. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys gwaredu’r cyfyngiad 15 mlynedd ar hawl dinasyddion Prydain cymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â electoralcommission.org.uk/overseasvoters.