Daeth dros 300 o bobl i ddigwyddiad ymwybyddiaeth iechyd meddwl diweddar a gynhaliwyd yn Tŷ Pawb, lle’r oedd cyfle i siarad gyda 30 o stondinwyr a chael gwybodaeth a chyngor ar sut i wella eu hiechyd meddwl a llesiant.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr: “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn y digwyddiad hwn a hoffwn ddiolch i bawb oedd yn bresennol.
“Gobeithio fod pawb wedi elwa ar yr wybodaeth wych a’r cyngor oedd ar gael. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn dechrau siarad mwy am ein hiechyd meddwl yn ein bywydau bob dydd ac yn y gwaith.
“Mae llawer o help a chyngor ar gael ac mae’n beth da ein bod yn gallu cael gafael arno’n gyflym a heb rwystrau. Rwyf yn gobeithio bydd pawb yn cymryd amser i siarad gyda chydweithwyr, aelodau’r teulu a ffrindiau er mwyn cael gwared ar y stigma sy’n gallu bod yn gysylltiedig ag iechyd meddwl.”
“Amser i newid”
Llofnododd Ian addewid cyflogaeth “Amser i Newid” sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i newid y ffordd rydym yn meddwl am iechyd meddwl ac yn gweithredu yn ei gylch, a sicrhau bod ein gweithwyr sy’n wynebu problemau iechyd meddwl yn derbyn cymorth.
Ymhlith rhai o’r Sefydliadau oedd yn bresennol roedd: Advance Brighter Futures, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, GIG Cymru, Cam wrth Gam, Men’s Shed Dinbych, Cymunedau am Waith, Amser i Newid Cymru, Papyrus Hopeline UK, MIND, Y Samariaid, In 2 Change, a Gwasanaethau Llesiant Cymunedol.