Mae yna newyddion gwych i ganol tref Wrecsam wrth i atyniad mawr ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg agor mewn hen siop.
Fe fydd Techniquest Glyndŵr, yr atyniad ymarferol sydd yn helpu pobl ifanc i roi cynnig ar ryfeddodau’r maes gwyddoniaeth a thechnoleg, yn agor atyniad yn hen adeilad TJ Hughes rhwng Stryt Henblas a Stryt Caer.
Mae gan Techniquest Glyndŵr safle sefydledig ym Mhrifysgol Glyndŵr eisoes. Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Glyndŵr, mae Techniques Glyndŵr t wedi sicrhau prydles 12 mis o hyd ar hen siop TJ Hughes, gan olygu y bydd y ganolfan darganfod gwyddoniaeth yn dod reit i ganol tref Wrecsam.
Fe fydd y ganolfan newydd yn rhoi cyfle i Techniquest Glyndŵr gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r dref. Fe fydd safle Glyndŵr yn cael ei gadw hefyd.
Fe fydd y cynlluniau ar gyfer y safle newydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan ac er na fydd y ganolfan ar agor drwy’r dydd bob dydd, bydd rhaglen lawn o weithgareddau yn cael eu cynnal i gyd-fynd â digwyddiadau yng nghanol y dref, gwyliau a phrosiectau yng nghanolfan Glyndŵr.
Dywedodd Mandy Jones, Cydlynydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Techniquest Glyndŵr: “Mae newyddion diweddar yn dangos fod gan Wrecsam economi twristiaeth sydd yn tyfu ac sydd bellach werth bron i £116miliwn.
“Rydym yn gobeithio gallu cyfrannu ymhellach at y twf yma trwy ddenu ymwelwyr newydd ac os bydd y prosiect yma’n llwyddiannus, efallai y gallwn ni ystyried safle parhaol yng nghanol y dref”.
“Newyddion gwych i Wrecsam”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion da iawn.
“Mae Techniquest Glyndŵr yn atyniad addysgiadol, hwyliog a dymunol sydd yn addas i’r teulu cyfan, ac mae ganddo gysylltiad cryf gyda Wrecsam yn barod ynghyd â chynulleidfa leol gref o’r ganolfan ym Mhrifysgol Glyndŵr – fe fydd denu’r gynulleidfa honno i ganol y dref yn hwb ardderchog i Wrecsam.
“Mae hen siop TJ Hughes wedi cyfrannu’n helaeth at drafodaethau yn ymwneud ag adfywio canol y dref, felly dwi’n falch iawn o glywed y newyddion y bydd Techniquest Glyndŵr newydd yn ei ddefnyddio.
“Ar ben hynny, fe fydd Techniquest Glyndŵr canol y dref wedi’i leoli ar draws y ffordd i Tŷ Pawb – gan olygu y bydd gennym atyniadau ardderchog ar gyfer y celfyddydau a gwyddoniaeth reit yng nghanol y dref.
“Mae hyn yn newyddion gwych, ac fe hoffwn ddiolch i Techniquest Glyndŵr am eu penderfyniad i dreialu lleoliad yng nghanol y dref – yn ogystal â’r swyddogion a fu’n gymorth i sicrhau prydles 12 mis o hyd ar y safle”.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT