Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn prysur agosáu ac mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas, yr awdur lleol poblogaidd Carys Davies, y nofelydd saga rhamantaidd Milly Johnson, ac awdur y gyfres deledu lwyddiannus Keeping Faith – Matthew Hall.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd Barbara Erskine meistr y genre time slip yn ymddangos yn fyw eleni gyda’r awdur hanesyddol Patricia Bracewell. Bydd Sarah Hilary, enwebai rhestr lyfrau Richard a Judy yn siarad am ei chyfrol ddiweddaraf Fragile. Am rywbeth gwahanol beth am wrando ar y Parch Dr Jason Bray yn siarad am ei brofiadau o exorcism.
Mae awduron lleol, Peter Evans (River Dee) a Chris Clode (Pyllau Llechi Cymru) yn rhoi sgyrsiau yn y prynhawn. Mae Alan Johnson yn dychwelyd i siarad am ei fenter gyntaf i fyd ffuglen.
Ac i’r rhai sy’n hoffi bod yn greadigol beth am ymuno â’n noson farddoniaeth gyda Viva Voce neu ein Carousel Ysgrifennwyr gyda phaneli o awduron, llenorion a beirdd lleol. Am fanylion y rhaglen lawn a sut i brynu tocynnau ewch i www.wrexhamcarnivalofwords.com
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH