Bydd un o wyliau llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru yn cael ei chynnal eto yn Wrecsam yn ystod 2022. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ei wythfed flwyddyn a bydd yn cael ei gynnal mewn llyfrgelloedd a lleoliadau ar draws y sir o 23ain – 30ain Ebrill.
Ymhlith yr awduron blaenllaw sy’n mynychu wythnos lawn a phrysur eleni mae Mark Billingham (The Rabbit Hole), Barbara Erskine (The Dream Weavers) Millie Johnson (The Woman in the Middle), Matthew Hall (creawdwr Keeping Faith – cyfres deledu’r BBC), Sarah Hilary (Fragile) ac arolygydd ysgolion poblogaidd wedi ymddeol, Gervase Phinn. Bydd cyn Weinidog y Llywodraeth Alan Johnson hefyd yn trafod ei nofel ffuglen gyntaf (The late Train to Gypsy Hill).
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae rhywbeth at ddant pawb – o’r llyfrau cyffro trosedd diweddaraf i amseroedd stori plant ynghyd â stori hynod ddiddorol am ymchwilio i ffenomenau paranormal gan y gweinidog gwaredigaeth Anglicanaidd cyntaf i ysgrifennu am ei brofiadau.
Ni fydd dilynwyr ffuglen trosedd eisiau colli’r dirgelwch bythol-boblogaidd Pwy Laddod? yn Llyfrgell Wrecsam pan fydd cyfranogwyr yn profi eu sgiliau ymchilio trwy chwarae ditectif am y noson i ddarganfod “whodunnit?”; a fydd yn cynnwys ymddangosiad gwadd gan yr awdur trosedd poblogaidd Kate Ellis.
Bydd Noson Farddoniaeth meic agored gyda Viva Voce; Digwyddiadau Cymraeg gyda Bethan Gwanas, Iestyn Tyne ac Elan Grug Muse. Bydd awduron lleol hefyd yn ymddangos, gan gynnwys yr awdur trosedd poblogaidd Simon McCleave yn siarad am ei gyfres The Snowdonia Killings; a digwyddiad hynod ddiddorol gyda Chris Clode (Chwareli Llechi Gogledd Cymru).
Mae tocynnau ar gael o www.wrecsam.gov.uk/gwyl neu Lyfrgell Wrecsam a cheir rhagor o fanylion yn www.wrexhamcarnivalofwords.com.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH