Bydd ‘na Ŵyl Nos Galan Gaeaf i bawb ei mwynhau ‘fory lle bydd llu o’ch hoff atyniadau Gŵyl Stryd hefyd.
Bydd yr hwyl yn dechrau am 9.30 ar draws canol y dref. Eleni mae Marchnad y Cigyddion yn ymuno yn y sbort gyda Helfa Bwmpenni rhwng 10am a 3.30pm, neu gallwch gymryd rhan yn y Clwb Celf dydd Sadwrn arferol yn Nhŷ Pawb, neu gael peintio’ch wyneb am bris o ddim ond £1.
Ar y stryd bydd stondinau celf a chrefft, cynnyrch lleol a bwyd stryd ac adloniant am ddim i’r plant.
Gallwch wireddu’ch addewid i ddringo i ben Tŵr Eglwys San Silyn i weld y golygfeydd anhygoel ar draws Wrecsam.
Mae ‘na thema wyddonol yn rhedeg drwy’r Ŵyl eleni hefyd, gan y bydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam, a drefnir gan Techniquest Glyndŵr, yn digwydd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul gydag agoriad eu cyfleuster newydd yn hen adeilad TJ Hughes yn Stryt Caer.
Ym Marchnad y Cigyddion gall y rhai ieuengaf gymryd rhan mewn Helfa Bwmpenni o 10pm – 3.30pm, neu beth am alw i mewn.
Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad rhagorol gyda rhywbeth i’r teulu i gyd.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I